Cynhadledd Seicoleg gyntaf i’w gynnal yn y Gymraeg
Cynhelir y gynhadledd Seicoleg gyntaf i’w chynnal yn gyfan gwbl yn Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 4 Tachwedd 2013.
Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor fydd yn cyflwyno’r digwyddiad. Mae’r ysgol hon yn fyd- enwog ac wedi bod yn datblygu ei darpariaeth seicoleg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim ond rhaid cofrestru ymlaen llaw. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r cynadleddwyr di-Gymraeg.
Meddai Dr Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol a Darlithydd, ac un o drefnwyr y digwyddiad,
“Mae’r Ysgol Seicoleg yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu cyfeiriadau newydd ym maes Seicoleg. Dyma'r tro cyntaf erioed i gynhadledd seicoleg gael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â'r Ysgol Seicoleg a Phrifysgol Bangor am eu gweledigaeth a'u nawdd i'n galluogi i wireddu'r freuddwyd hon.”
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig bod myfyrwyr ar bob lefel, ac ymarferwyr, yn cael cyfle nid yn unig i drafod seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i drafod datblygiad y pwnc yn Gymraeg. Er enghraifft, datblygu ymyriadau sydd ar gael i bobl yn Gymraeg, i bobl sy’n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn yr iaith.”
Dr Carl Hughes fydd y prif siaradwr yn y gynhadledd. Mae Dr Hughes yn gyfarwyddwr cyrsiau ôl-radd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru sydd newydd ei sefydlu. Dr Hughes yw’r ifancaf i ennill Gwobr Gwasanaeth Nodedig ym maes Dadansoddi Ymddygiad gan y gymdeithas, The Society for the Advancement of Behavior Analysis (SABA).
Eglurodd Dr Hughes, “Mae ymarferwyr sydd wedi graddio o’n cwrs ôl-radd ym maes Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn aml yn gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a sefydliadau addysgol arbennig. Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu Cynllun Bwrsariaeth Cymraeg i gyfrannu at ddatblygu dadansoddwyr ymddygiad medrus fydd yn gallu cael gwaith yn lleol yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r gallu i ymarfer yn glinigol yn y ddwy iaith yn hollbwysig yng ngogledd orllewin Cymru lle mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg a’r rhan fwyaf o’r ysgolion yng Ngwynedd yn darparu addysg ddwyieithog.”
Rhoddir cyflwyniadau’r gynhadledd gan ymchwilwyr lleol, staff a myfyrwyr yr Ysgol Seicoleg. Bydd amrywiaeth o bynciau dan sylw yn cynnwys Food Dudes, y Blynyddoedd Rhyfeddol, prosesu emosiynau ac iaith, strôc a dwyieithrwydd, iechyd oedolion gydag anableddau dysgu a nifer o bynciau eraill. Cyflwynir y projectau ymchwil arloesol hyn drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyfrannu at nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o gynyddu cyfleoedd academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae i hyn oblygiadau i staff a myfyrwyr y brifysgol a hefyd i ymarferwyr sy’n anelu at ragoriaeth yn eu hymarfer clinigol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013