Cynhadledd yn ystyried Chwyldro ym mywydau oddeutu hanner miliwn o bobl Cymru
Yn ystod 2015 bydd hyd at 500,000 o bobl ar draws Cymru yn cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol (universal credit) newydd*. Beth fydd effaith y newid mawr yma ar bobl anabl a di-waith; landlordiaid a thenantiaid neu ar dalu am ofal plant?
Bwriad Cynhadledd bwysig ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Gwener 23 Ionawr 2015 yw ceisio rhoi atebion a mynd i’r afael gyda’r newid mawr yma a’i effaith ar lawr gwlad. Dyma’r unig gynhadledd yng Nghymru i’w chynnal ar y pwnc bwysig yma.
Trefnir y Gynhadledd gan Brifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd gwleidyddion, cynrychiolwyr llywodraeth leol, rheolwyr a gweithwyr yn y drydedd sector, ymchwilwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn cwrdd i drafod cwestiynau sy’n codi o gyflwyno trefn newydd o weinyddu budd-daliadau sef Credyd Cynhwysol. Cymraeg bydd iaith y Gynhadledd ond bydd cyfieithu ar y pryd a cynhelir hi yn Neuadd Reichel ym Mangor.
Cyflwyno Credyd Cynhwysol ydy’r newid mwyaf i’r drefn fudd-dal ers ei sefydlu ym 1948.
Bydd y Credyd yn newid elfennau o gefnogaeth lles y wladwriaeth gyda’r amcan o sicrhau na fydd neb yn waeth eu byd o weithio.
Ymysg y siaradwyr mae’r Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams AS fydd yn traddodi araith allweddol ac Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb.
Meddai Myfanwy Davies, trefnydd y gynhadledd:
“Mae cyflwyno credyd cymhwysol yn newid sylfaenol i’r wladwriaeth les sydd yn symud y cyfrifoldeb i unigolyn a rhoi mwy fyth o bwyslais ar symud ymlaen at waith. Rwy’n hynod falch ein bod yn cynnal y gynhadledd gyntaf yng Nghymru i drafod y newid.
Ein bwriad yw dechrau trafodaeth bwrpasol er mwyn deall pa rai ydy’r cwestiynau y gallwn ni fel ymchwilwyr ddechrau eu hateb.”
Bydd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn agor y Gynhadledd. Meddai yntau:
“Mae gan Fangor draddodiad hir a balch o wasanaethau cymunedau ar draws y Gogledd ers ei sefydlu gan bobl yr ardal er mwyn addysgu eu plant.
Bydd y gynhadledd arloesol hon yn trafod newid gall cael effaith arwyddocaol ar unigolion a chymunedau. Ymgais ydyw i greu agenda ymchwil ar y cyd gyda chyrff ac unigolion bydd yn cael ei heffeithio gan y newid. Mae hon felly yn fenter sydd yn gwbl gydnaws â thraddodiad Bangor o ddefnyddio dysg i ddeall a gwella bywyd yn ein cymunedau.”
Cynhadledd Credyd Cynhwysol.
23 Ionawr 2015, Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
Myndiad am ddim. I gofrestru: Siôn Jobbins, s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk
Amserlen y Dydd: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/newyddion/cynadleddau/chwyldrotawelofewnywladwriaethles/
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015