Cynhadledd yr G8 yn cyhoeddi project ymchwil gwerth £4 miliwn ynghylch gwella bywyd gyda dementia
Sut ellir cefnogi pobl gyda dementia i fyw'n dda? Beth sy'n effeithio ar eu gallu i wneud hyn a phryd dylid cynnig cefnogaeth i helpu pobl i fyw'n dda gyda'r clefyd anodd hwn?
Mae project newydd a ariannir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Ganolfan Ymchwil i Iechyd yn gobeithio ateb y cwestiynau hyn.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn £4 miliwn i arwain y project ‘Gwella profiad Dementia a gwella bywyd gweithgar: Byw'n dda gyda dementia’ (IDEAL). Cynhelir yr astudiaeth ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Brunel, Ysgol Economeg Llundain, King’s College Llundain, Prifysgol Sussex, y 'Research Institute for the Care of Older People (RICE)', y Gymdeithas Alzheimer ac 'Innovations in Dementia CIC'.
Dywedodd Yr Athro Linda Clare, a fydd yn arwain y gwaith yn ysgol Seicoleg y Brifysgol:
"IDEAL fydd yr astudiaeth gyntaf o'i math ar raddfa fawr, a disgwyliwn iddi gael effaith o bwys ar fywydau a phrofiadau pobl gyda dementia a gofalwyr teuluol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Yn ogystal, bydd yr astudiaeth yn helpu i ddatblygu sgiliau ymchwilwyr ym maes dementia ac ysgogi datblygiadau newydd. Credwn y bydd y canlyniadau yn darparu adnodd a chanolbwynt unigryw ar gyfer ymchwil gwyddor gymdeithasol i ddementia."
MAe'r project IDEAL yn astudiaeth bum mlynedd o 1,500 o bobl gyda dementia a'u gofalwyr teuluol ar draws Brydain. Bydd ymchwilwyr yn edrych ar sut mae ffactorau cymdeithasol a seicolegol yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn addasu i effeithiau dementia a'r sialensiau mae'n eu cyflwyno, a sut mae hyn yn newid dros amser fel y mae dementia yn datblygu. Y nod yw gallu nodi'n well ar ba gam y gall unigolion, cymunedau, ymarferwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, darparwyr gofal a gwneuthurwyr polisi ymyrryd i wella tebygolrwydd byw'n dda gyda dementia.
Cyhoeddwyd y cyllid yng nghynhadledd Dementia G8 yn Llundain heddiw, 11 Rhagfyr 2013. Gydag elusennau'n beirniadu bod lefel y cyllid i mewn i ymchwil i ddementia'n rhy isel, mae'r buddsoddiad yn y projectau allweddol hyn yn dangos ymrwymiad cynyddol i wella dealltwriaeth a gofal.
Cliciwch yma i fynd at safle'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i ddarlen newyddion am y cyhoeddiad swyddogol. safle'r
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013