Cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ers mwy na 45 mlynedd
Pan oedd Tîm rygbi Cymru yn ei anterth, fe gychwynnwyd ‘myth’ am y ffatri yn y cymoedd oedd yn cynhyrchu’r chwaraewyr (yr ‘Outside Half Factory’ bondigrybwyll), wedi’i chuddio yn nyfnderoedd y cymoedd. Y pen arall i’r wlad, mae llwyddiant sy’n parhau hyd heddiw, sefydliad sy’n cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ar gyfer byd real iawn ers 45 mlynedd.
Mae’r MSc mewn Cefnforeg Ffisegol Gymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn llenwi bwlch sgiliau cydnabyddedig yn sector amgylchedd y DU, gan gynhyrchu eigionegwyr sydd, ymysg sgiliau eraill, yn fedrus o ran modelu cyfrifiadurol ac sy’n hollol rifog. (Yn ôl adolygiad gan y Cyngor Ymchwil ar y 15 sgil sydd eu hangen fwyaf yn y sector amgylcheddol, mae gallu i ymwneud â modelu cyfrifiadurol ar ben y rhestr, a rhifedd yn bedwerydd).
Mae’r cwrs MSc yn unigryw, gan iddo dderbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn ddi-dor ers ei gychwyn, dros 45 mlynedd yn ôl. Mae hefyd yn un o’r astudiaethau Achos gan y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd naturiol er mwyndangos Effaith Dwyddoniaeth, ac mae i’w weld yma:
“Mae’r cwrs yn troi’r goreuon o blith ffisegwyr a mathemategwyr yn eigionegwyr ffisegol, gan eu cyflwyno i ffiseg y cefnfor a systemau hinsawdd. Mae tri deg pump y cant o’n myfyrwyr yn cael hyd i swyddi yn y sector preifat neu gyhoeddus a’u hanner wedyn yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer doethuriaethau,” esbonia Dr Tom Rippeth, cyfarwyddwr y cwrs a Darllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae’r graddedigion yn darparu sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant ynni adnewyddol, y diwydiant olew, ac ym maes cynllunio rhag perygl. Mae galw am sgiliau a swyddi i’w llenwi yn y sectorau hyn.
Mae graddedigion o’r cwrs yn gweithio mewn swyddi allweddol o fewn diwydiant a’r sector gyhoeddus yn y DU ac o amgylch y byd. Maent yn cynnwys Pennaeth presennol y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol ac aelod o’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC).
Mae myfyrwyr diweddar ar y cwrs wedi cyflawni gwaith ymchwil sydd wedi cael effaith sylweddol, ac sydd wedi ei ddisgrifio mewn cylchgronau o bwys a chan y wasg genedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys astudiaeth sy’n dangos bod cynnydd yn lefel y môr wedi arwain at gynnydd yng ngallu’r môr i amsugno carbon deuocsid, gwaith sy’n dangos sut y gall ffermydd llanw effeithio ar waddod ar wely’r môr, a gwaith ar welyau Cregyn Gleision Afon Menai a gyfrannodd at dystysgrif i bysgodfa cregyn gleision Afon Menai gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol – sy’n darparu cyfwerth â 50% o bysgodfa cregyn gleision y DU.
Meddai Sophie Ward, sy’n hanu o Ruthun, ac a gwblhaodd yr MSc yn 2010: “Mae fy mhroject MSc wedi arwain yn dwt at fy mhroject doethuriaeth o ran y sgiliau rwyf wedi’u dysgu.” Roedd project MSc a phroject doethuriaeth Sophie’n dibynnu ar fodelu rhifyddol o gynnydd yn lefel y môr. Mae hi bellach yn ymchwilio ynni adnewyddol morol.
Yn ogystal â sgiliau rhifyddol ac eigioneg, mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy, fel ysgrifennu traethodau, sydd yn hanfodol ar gyfer gyrfa mewn gwyddoniaeth. “Roedd y MSc yn ddwys ond yn drwyadl,” ychwanegai Sophie Ward.
Meddai myfyrwraig bresennol, Manon Francis o Langefni:
“Mae’n wych medru astudio cwrs mor flaengar ar lefel fyd-eang, nad yw ond chwarter awr yn y car o ’nghartref, Mae’r cwrs yn ddiddorol, er ei fod yn waith caled ar brydiau! Rwy’n gobeithio gwneud mwy o ymchwil, ac mae gen i ddiddordeb mewn cylchrediad y cefnforoedd. Mae hwn yn faes pwysig o wyddoniaeth a all gael oblygiadau enfawr ar y blaned ac ar ddynoliaeth.”
Mae Iestyn Woolway o Borthmadog, sy’n dilyn y cwrs ar hyn o bryd, â’i fryd ar fynd i’r Arctig gyda’i waith, am ei fod yn ymddiddori ers tro yn y rhan honno o’r byd. Mae’n gobeithio dilyn doethuriaeth mewn un o ddwy brifysgol flaenllaw yn America y mae wedi gwneud cais iddynt.
Meddai Iestyn, “Mae cymaint o gyfleoedd gyrfaol yn y maes yma – gallaf ddilyn llwybr sy’n edrych ar newid hinsawdd yn yr Arctig a sut mae hynny’n effeithio ar y blaned. Ond mae newid hinsawdd hefyd yn cael effaith fawr ar yr Arctig ac mae’n cynnig nifer o gyfleoedd – fel gweithio fel ymgynghorydd i un o’r cwmnïau olew mawrion, mae cymaint o gronfeydd olew ar gael yn y rhanbarth.”
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2011