Cynhyrchydd yn herio’r gwleidyddion a’r cyfryngau
Bydd y cynhyrchydd David Puttnam, sydd wedi ennill Gwobrwyon Oscar ac a gynhyrchodd ffilmiau fel Chariots of Fire, The Killing Fields a Memphis Belle, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 1 Mai. Mae’n addo sylwadau treiddgar ynddi ar Adroddiad Leveson a chyflwr y cyfryngau.
Bydd y ddarlith ‘The Lessons of Leveson: Media Regulation in an Internet Age’ yn dechrau am 6.00pm ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau , Prifysgol Bangor. Dyma’r digwyddiad olaf yn rhaglen darlithoedd y Brifysgol yn 2012/13. Mae mynediad am ddim ond fe’ch cynghorir i gyrraedd mewn da bryd.
Bydd yr Arglwydd Puttnam, a ddyrchafwyd i Dŷ’r Arglwydd yn 1997, yn trafod rhai o’r materion sydd wedi deillio o ymholiad Leveson ac yn ystyried yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu am y cyfryngau, ac am gymdeithas Prydain yn ei chyfanrwydd, o ganlyniad. Mae eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn credu bod angen ailgloriannu’n llwyr y modd yr ydym yn ystyried y berthynas rhwng y cyfryngau a democratiaeth. Mae’r Arglwydd Puttnam wedi siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi ac yn y wlad yn gyffredinol ar Adroddiad Leveson, yn fwyaf diweddar i gynnig gwelliant i Adroddiad Leveson yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Erbyn hyn mae’r holl bleidiau gwleidyddol wedi cytuno i greu siarter frenhinol a fyddai, mewn gwirionedd, yn sail i reoleiddio’r wasg Brydeinig a sicrhau yr un pryd ei hannibyniaeth oddi wrth y llywodraeth.
Mae ‘r Arglwydd Puttnam wedi datgan ei fod yn gobeithio bod digwyddiadau diweddar yn “dangos ein bod, gyda’n gilydd, wedi troi dalen lân, a bod gwleidyddion o bob lliw bellach yn cydnabod fod rheoleiddio’r cyfryngau, a hynny ‘n hollol annibynnol ar y llywodraeth, a chyda chefnogaeth pwerau gorfodaeth sifil perthnasol, yn un o warantau sylfaenol democratiaeth iach yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Mae ffilmiau David Puttnam wedi ennill 10 Oscar a 25 BAFTA. Ef oedd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Columbia Pictures rhwng 1986-88, ac mae wedi gwasanaethu ar sawl corff, gan gynnwys bod yn Llywydd y Film Distributors Association, Dirprwy Gadeirydd Channel 4 ac un o Ymddiriedolwyr Oriel y Tate a’r Amgueddfa Gwyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2013