Cynllun cyfeillion ieithoedd yn ennill gwobr
Mae cynllun sy’n cysylltu disgyblion ysgol a myfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn dramor wedi derbyn gwobr fawreddog Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
Ddydd Mercher, 26 Medi, dathlodd Ewrop y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd ac i nodi’r achlysur, cafodd projectau iaith o bob rhan o Brydain eu cydnabod yn seremoni wobrwyo’r Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd. Ymhlith yr enillwyr roedd Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a hynny am eu cynllun Mabwysiadu Dosbarth.
Cynllun sy’n cysylltu disgyblion ysgol yng Nghymru gyda myfyriwr israddedig tra ar flwyddyn dramor yw Mabwysiadu Dosbarth. Caiff y disgyblion gyfle i gwrdd â’u cyfaill fyfyriwr cyn iddo/iddi fynd dramor. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, maen nhw’n cadw mewn cysylltiad. Mae’r myfyriwr yn anfon gwybodaeth am y wlad lle mae wedi mynd i fyw. Mae’r disgyblion yn rhannu’r profiad o ddarganfod dinas newydd mewn gwlad arall heb orfod symud o’u dosbarth. Bwriad Mabwysiadu Dosbarth yw tanio brwdfrydedd y disgyblion ynghylch dysgu ieithoedd, gan eu cyflwyno'r un pryd i’r posibilrwydd o dreulio amser dramor gyda chynlluniau lleoliadau myfyrwyr fel Erasmus.
Daeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o’r cynllun yn 2011 pan fu chwech o fyfyrwyr yn mabwysiadu dosbarth mewn ysgolion uwchradd lleol, lle buont yn cadw mewn cysylltiad â nhw pan oeddent dramor. Mae'r cysylltiadau’n llwyddiannus iawn, ac mewn un ysgol leol, gwelwyd nifer uchaf y disgyblion a ddewisodd TGAU Ffrangeg yn dod o'r dosbarth a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun.
Dywedodd Ruben Chapella, Swyddog Cefnogi Llwybrau at Ieithoedd “Mae personoliaeth ac ewyllys unigryw ein Llysgenhadon Myfyrwyr Iaith yn ein gwneud mor falch, ac mae'r wobr haeddiannol hon yn brawf pellach o bwysigrwydd eu rôl i hyrwyddo ieithoedd tramor.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2012