Cynllun eithrio rhag talu ffioedd PhD Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau 2017/18
Mae Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cyflwyno cynllun eithrio rhag talu ffioedd PhD ar gyfer 2017/18.
Gwerth: Bydd yr eithrio rhag talu ffioedd ar gael am dair blynedd i bob myfyriwr.
Pynciau a ystyrir: Ymhlith themâu ymchwil allweddol y Coleg a weithredir ar y cyd mae dwyieithrwydd a chyfieithu, Astudiaethau Celtaidd, ymarfer creadigol ac ymchwil ar sail ymarfer, ieithyddiaeth gwybyddol, economïau digidol, cerddoriaeth cynnar a chyfoes, astudiaethau canoloesol a'r cyfnod modern cynnar, a'r cyfryngau a chyfathrebu er perswâd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 23 Mehefin 2017
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017