Cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng Ngogledd Cymru
Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng ngogledd Cymru. Bydd Academi Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi twf busnes a chystadleurwydd yn y rhanbarth trwy gyflwyno cymwysterau arwain a rheoli wedi eu hachredu gan brifysgol i dros 1,000 o weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Caiff Academi Talent Ifanc hefyd ei sefydlu i ddatblygu a chadw'r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng ngogledd Cymru.
Gyda £2.8m o nawdd gan yr EU, bydd y cynllun yn galluogi cyflogwyr i fanteisio ar hyfforddiant a datblygiad i'w staff gyda chymorthdaliadau gwerth hyd at 70%. Disgwylir y bydd tua 275 o fusnesau ledled gogledd Cymru yn manteisio ar y cynllun. Arweinir y project gan Grŵp Llandrillo Menai mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndŵr.
Meddai Mark Drakeford:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau gwerth £2.8m o gyllid gan yr UE i Academi Busnes Gogledd Cymru, a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa i staff busnesau a thrwy hynny, yn annog cystadleuaeth mewn sectorau twf allweddol yn y rhanbarth.”
Mae Academi Busnes Gogledd Cymru wedi ei anelu at gwmnïau mewn sectorau allweddol sydd eisiau tyfu, yn cynnwys gweithgynhyrchu uwch, twristiaeth a gweithgareddau awyr agored, y diwydiant bwyd a diod a'r sector ynni.
Bydd cyfleoedd i staff ennill cymwysterau rheoli trwy gymhorthdal ar gael mewn meysydd sy'n cynnwys rheolaeth ariannol, gwerthu a marchnata, strategaethau busnes, llywodraethu a sgiliau a rheolaeth weithredol.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Mae Prifysgol Bangor yn falch dros ben i fod yn rhan o'r project hwn, ynghyd â phartneriaid eraill ym maes AB ac AU yn y rhanbarth, i gynorthwyo busnesau i feithrin y sgiliau arwain a rheoli ar lefel uwch sydd eu hangen i wneud y rhanbarth yn lle mwy llewyrchus yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2016