Cynnal y Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru
Daeth tua 90 o athrawon ysgol ynghyd i’r Gynhadledd Bagloriaeth Cymru gyntaf yng Ngogledd Cymru a drefnwyd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad Pontio’r Brifysgol, yn canolbwyntio ar y project unigol yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig, y mae’n rhaid i bob ysgol a choleg yng Nghymru ei gyflwyno fel rhan o'u cwricwlwm.
Trefnwyd y diwrnod gan adran Farchnata'r Brifysgol ar y cyd â CBAC, a daeth athrawon a staff cefnogi o ysgolion a cholegau ar draws Gogledd Cymru i gynnal diwrnod o weithdai a chyflwyniadau.
Esboniodd Sioned Hughes, Swyddog Cyswllt Ysgolion a Swyddog Marchnata Prifysgol Bangor:
“Fe wnaethon ni ddatblygu rhaglen y gynhadledd ar y cyd â CBAC a nifer o ddarlithwyr o Brifysgol Bangor er mwyn rhoi mwy o arweiniad a chefnogaeth i athrawon a’u helpu i gyflwyno’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd yn llwyddiannus.
Bydd gweithdai’r gynhadledd yn edrych ar ffyrdd o gefnogi dysgwyr i gynllunio, trefnu a chyflwyno project ymchwil effeithiol fel rhan o'u CBC.”
Dywedodd Siân Coathup, Swyddog Cefnogi Rhanbarthol CBAC, fod ffocws y gynhadledd ar y project unigol o fewn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch yn amserol ac yn berthnasol.
“Mae'r project unigol yn rhan allweddol o Fagloriaeth Cymru, mae'n cyfrif am 50% o'r marc terfynol," meddai Siân Coathup. “Gall y project unigol gael effaith allweddol bwysig ar lwyddiant disgybl, ac mae mor ddefnyddiol cael mewnbwn gan gydweithwyr mewn Addysg Uwch er mwyn paratoi'r dysgwyr yn y ffordd orau ar gyfer y rhan allweddol hon o’r cymhwyster.”
Hefyd yn y digwyddiad gwelwyd cynrychiolwyr o sefydliadau fel Tŷ Gobaith, Arweinwyr Chwaraeon, a Gyrfa Cymru, sydd hefyd yn gallu cefnogi ysgolion wrth iddynt gyflwyno elfennau amrywiol o Fagloriaeth Cymru.
Dywedodd Peredur Williams sy'n Ddarlithydd mewn Addysg (Dylunio a Thechnoleg Cynnyrch) ac oedd wedi cyfrannu drwy gyflwyno sesiwn o'r enw 'Addysgu Creadigrwydd ac Arloesedd':
“Roedd yn bleser cynrychioli’r Ysgol Addysg a'r Adran Dylunio a Thechnoleg Cynnyrch yng nghynhadledd Bagloriaeth Cymru eleni. Mae cyfleoedd fel hyn yn bwysig, nid yn unig er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da, ond er mwyn adeiladu ar y berthynas rhwng ysgolion a cholegau a'r Brifysgol. Rwy'n edrych ymlaen at gynhadledd y flwyddyn nesaf yn barod!”
Meddai Carys Roberts, Cyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae Prifysgol Bangor eisoes wedi cyfrannu at ddatblygu Bagloriaeth Cymru drwy ddarparu tua 70 o Gynigion Project unigol i wefan CBAC - mwy nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.
Rydym yn falch o weld cynifer o athrawon yn y gynhadledd hon. Mae’n amlwg ei bod wedi ateb angen o ran darparu mwy o arweiniad ar gyfer y staff sy'n ymwneud â chyflwyno'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru diwygiedig.
Fel Prifysgol, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi myfyrwyr, yn ystod eu hamser yma yn ogystal â thra byddant yn paratoi ar gyfer Addysg Uwch. Mae ein gwaith cyswllt addysg yn golygu darparu cyngor ac arweiniad i ddarpar fyfyrwyr prifysgol am y cyfleoedd astudio sydd ar gael, yn ogystal â sut i wneud cais a pharatoi ar gyfer bywyd prifysgol. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cynnwys cefnogi'r athrawon mewn ysgolion a cholegau sy'n ymwneud â pharatoi eu dysgwyr ar gyfer Addysg Uwch, sef y rhesymeg y tu ôl y gynhadledd hon heddiw.”
Dywedodd Delyth Williams, cydlynydd BAC yn Ysgol David Hughes:
“Braf iawn oedd medru manteisio ar holl adnoddau Pontio, ac roedd arlwy’r diwrnod mor amrywiol ac eang â’r Fagloriaeth ei hun. Trwy gyfrwng pum darlith wahanol cawsom flas ar sawl agwedd ar egwyddorion ymchwilio o gynllunio a threfnu project ymchwil i’r defnydd o ddata rhifiadol ac o hanfodion creadigrwydd ac arloesedd i i’r defnydd o DACTEG (PESTLE) mewn materion byd-eang.
Diolch i Brifysgol Bangor am eu gweledigaeth yn trefnu diwrnod o’r fath. Cawsom lawer i gnoi cil arno wrth i ni fynd ati i gyflwyno’r Project Unigol i fyfyrwyr blwyddyn 13 a braf ydy medru manteisio ar arbenigedd lleol a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016