Cynnal Ysgol Haf ar Gychwyn Busnesau
Cymerodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor a graddedigion lleol ran mewn Ysgol Haf ysgogol ar Gychwyn Busnesau a drefnwyd yn ddiweddar gan dîm Byddwch Fentrus. Arweiniwyd y digwyddiad gan Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor profiadol ym myd busnes o Innovas, a Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor Cychwyn ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Mentrau a gyllidir gan HEFCW, ac roedd yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, yn ogystal ag i raddedigion diweddar sy’n byw yng Nghymru a’r gymuned yng Nghymru yn ei chrynswth. Mae Tim a Chris ill dau wrthi ar hyn o bryd yn cefnogi llawer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion sy’n edrych ar y syniad o gychwyn busnes.
Roedd y rhaglen Cychwyn Busnes i Ysgolion yn cynnwys sesiynau ar farchnata ar gyllideb, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i dyfu busnes, a gêm fusnes yn arddull Ffau’r Llewod. Cafwyd llawer o ysbrydoliaeth oddi wrth entrepreneuriaid presennol o blith ein graddedigion, sef Kala Krishnanmurthi a Catherine Harrison, a rannodd â’r grŵp eu profiadau o gychwyn busnesau. Sefydlodd Kala, a raddiodd mewn Busnes o Brifysgol Bangor, ei siop Bubble Tea Family ar Stryd Fawr Bangor ar ôl manteisio ar y cymorth a oedd ar gael trwy raglen Byddwch Fentrus. Agorodd Cath Harrison ei busnes ‘JobVacancyPortal.co.uk Ltd’ yn Ionawr 2014, gan roi cymorth recriwtio ar-lein am bris sefydlog. Mae ei busnes eisoes yn tyfu’n llwyddiannus, ac mae hi eisoes wedi dechrau ehangu ei thîm.
Meddai Chris Walker am y digwyddiad, “Diwrnod cynhyrchiol iawn i bawb a gymerodd ran. Bu cyfranogwyr yn edrych o safbwynt cyfannol ar sylfeini cychwyn busnes, a defnyddio eu syniadau yn y modd mwyaf ymarferol.”
Yn ystod y digwyddiad, dywedodd Sam James, myfyriwr ol-raddedig yn peirianneg "Roedd yr ysgol haf ar ddechrau busnes yn ddefnyddiol iawn o ran fy ngalluogi i ddechrau meddwl ynghylch fy musnes er mwyn gweld yn gliriach beth rydw i eisiau ei wneud a sut i fynd ati i'w gyflawni. Felly, fe roddodd fwy o hyder i mi fedru siarad ag eraill mewn ffordd gliriach a mwy trefnus, a rhoi canllawiau i mi i feddwl am beth rydw i angen ei wneud nesaf a sut i fynd ati i wireddu fy syniadau."
Mae cyfranogwyr yn ennill hyd at 20 BEA XP am fynd i’r digwyddiad hwn.
Un yn unig yw’r Ysgol Haf ar Gychwyn Busnesau o blith llawer o weithgareddau a drefnir trwy gydol y flwyddyn gan raglen Byddwch Fentrus y Brifysgol yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth. Mae’r Gwasanaeth yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau entrepreneuraidd, yn cynnwys cystadlaethau lleol a chenedlaethol, mentora busnes ar lefel unigol, a gweithdai a seminarau eraill cysylltiedig â medrau busnes.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o weithgareddau’r Brifysgol yn ystod ‘Wythnos y Prifysgolion’ a gynhelir er 2010 ac sy’n anelu at annog trafodaeth genedlaethol ar swyddogaeth prifysgolion yn y DU, a’r effaith a gânt ar ein bywydau beunyddiol.
Mae Byddwch Fentrus yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal y gweithgaredd hwn a rhai eraill ar y cyd ar draws Canolbwynt Cenedlaethol Gogledd-Orllewin Cymru a’r Rhaglen Cefnogi Menter.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014