Cynnydd mewn incwm ymchwil
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn yr incwm a enillwyd gan y Brifysgol ar gyfer ymchwil yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Croesawodd cyfarfod diweddar o Gyngor y Brifysgol adroddiad a oedd yn dangos bod gwerth y grantiau ymchwil a ddyfarnwyd i’r Brifysgol wedi cynyddu 142%; un a hanner gwaith yn fwy nag incwm y llynedd, o £25.5 miliwn i swm sy’n agos at £38 miliwn.
Yn ogystal â grantiau sylweddol o’r Comisiwn Ewropeaidd, gwelodd y Brifysgol hefyd gynnydd sylweddol yn y grantiau a ddyfarnwyd gan Gynghorau Ymchwil y DU. Mae cystadleuaeth galed am y grantiau hyn ac maent yn cael eu dyfarnu i’r ymchwil orau a mwyaf perthnasol.
Gwelodd y Brifysgol hefyd gynnydd sylweddol yng ngwerth y contractau a gafwyd gan ddiwydiant yn y DU ac o adrannau llywodraeth y DU: roedd y rhain yn adlewyrchu lefelau cynnydd cyffelyb i’r cynnydd cyffredinol.
“Mae’r Brifysgol wedi bod yn dilyn strategaeth er mwyn cryfhau ei phroffil ymchwil a gwella ansawdd yr ymchwil a wneir. Mae’r holl waith a wnaed ar draws y Brifysgol i gefnogi ymchwil yn dwyn ffrwyth. Mae’r cynnydd yn incwm ymchwil yn llinyn mesur da o statws ymchwil y Brifysgol,” meddai’r Athro David Shepherd, a benodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil a Menter yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2010