Cynrychioli'r Brifysgol ar Côr Cymru
Bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau perfformiad gan Gôr Aelwyd JMJ, Prifysgol Bangor nos Sul, 3 Mawrth am 8.00 y.h, wrth iddynt roi o’u gorau yn cystadlu mewn rownd gynderfynol yn y rhaglen boblogaidd, Côr Cymru.
Ar ôl llwyddo yn y clyweliadau, bydd y côr o 60 o leisiau yn cystadlu yn y categori Côr Ieuenctid, yn y gystadleuaeth sydd yn gweld enillwyr pob categori yn cystadlu am deitl Côr Cymru yn ffeinal y rhaglen.
Arweinydd y côr yw Steffan Dafydd o Ruthun, sy’n fyfyriwr Cymraeg a Cherddoriaeth a’r cyfeilydd yw Catrin Llewelyn o Ddeiniolen, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn sy’n astudio Cerddoriaeth.
Meddai Steffan, “Rydym wedi cael profiad gwych hyd yma fel Côr Aelwyd yn cystadlu yn erbyn corau llawer mwy profiadol.”
“Ein caneuon oedd Alaw Mair gan Delwyn Siôn, Jonah gan Brian Hughes, trefniant hyfryd Gareth Glyn o Suo-Gân a Gwinllan a Roddwyd, trefniant gan Caradog Williams.”
Wrth longyfarch y Côr ar gyrraedd y rowndiau sy’n cael eu darlledu, dywedodd Gethin Morgan, Llywydd UMCB:
“Mae’n bleser gweld fod yr Aelwyd yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae’r myfyrwyr hyn yn glod enfawr i UMCB a Phrifysgol Bangor. Mae eu hymroddiad i’r côr yn arbennig a hoffwn i fel Llywydd UMCB ddiolch i’r holl aelodau a’r swyddogion am eu gwaith caled.”
Roedd yr aelodau wedi mwynhau’r cystadlu.
“O ystyried ein bod yn gôr o fyfyrwyr ac yn gôr cymdeithasol, roedd cael y cyfle i ddangos ein doniau mewn cystadleuaeth genedlaethol yn gamp fawr. Roedd y profiad hwn yn un o fy uchafbwyntiau fel myfyrwraig hyd yma,” oedd ymateb Elain Rhys, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio Cerddoriaeth.
“Mae hi’n braf iawn cael cynnal safon uchel yr Aelwyd ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd wrth gystadlu yn erbyn corau eraill mor safonol,’ oedd ymateb Ioan Rees, myfyriwr yn yr ail flwyddyn sy’n astudio Cerddoriaeth.
“Roedd hi’n braf gweld pawb yn dod at ei gilydd a rhannu cerddoriaeth, a chael seibiant o brysurdeb bywyd yn y brifysgol,” meddai Alistair O’Mahony, myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio Cerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2019