Cystadleuaeth Ffotograffiaeth, Celf a Barddoniaeth Gŵyl Wyddoniaeth Bangor
Fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Bangor, mae Prifysgol Bangor yn gwahodd unrhyw un o dan 19 mlwydd oed i gymryd rhan yn eu Cystadleuaeth Ffotograffiaeth, Celf a Barddoniaeth.
Sefydlwyd y gystadleuaeth hon er mwyn annog ac ysbrydoli pobl ifanc i greu gwaith celf bwerus ac angerddol ar themâu bywyd gwyllt a newid yn yr hinsawdd.
Themâu'r gystadleuaeth yw Patrymau Natur a Newid Hinsawdd. Bwriad y gystadleuaeth yw dathlu doniau artistiaid ifainc drwy godi ymwybyddiaeth o wyddoniaeth, yr amgylchedd a phwysigrwydd byw’n gynaliadwy. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i dynnu sylw at brydferthwch ac amrywiaeth hanes naturiol Cymru.
Dywedodd Stevie Scanlan, trefnydd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor: “Bydd y gystadleuaeth yn annog artistiaid ifanc i fynd allan i ddarganfod bywyd gwyllt eu hardal, yn yr ucheldir ac ar yr arfordir, yn yr afonydd ac ar hyd y ffyrdd. Drwy grwydro cefn gwlad, chwilio am fywyd gwyllt wrth eu drws neu ar dir yr ysgol; gallai fod yn bryfyn yn eu gardd, yn granc ar y traeth neu’n ddehongliad artistig o goedwig, gallant chwilio am ysbrydoliaeth o fyd natur ac o’r patrymau rhyfeddol o amrywiol y mae’n eu creu.
“Gall y gystadleuaeth hefyd gael yr artistiaid ifanc i feddwl sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hardal leol, ar y tywydd ac ar fywyd gwyllt o'n cwmpas a beth all ei wneud i helpu.”
Bydd gwaith yr enillwyr yn cael eu fframio a’u harddangos mewn arddangosfa arbennig yn ystod Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2016 (11-20 Mawrth) yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd newydd sbon: Storiel ar Ffordd Deiniol, Bangor.
Cynhelir seremoni wobrwyo a chyfle i weld y gwaith buddugol nos Wener 11 Mawrth 2016 am 5pm.
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bawb o dan 19 oed ar 1 Chwefror 2016.
Bydd y ceisiadau yn cael eu barnu mewn dau gategori oedran - Cynradd ac Uwchradd. Bydd gwobrau ar gyfer y gorau a’r ail-orau ym mhob grŵp oedran.
I gymryd rhan, anfonwch eich ceisiadau drwy’r post neu’n bersonol at Dr Rosanna Robinson, Coleg Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor, Adeilad Coffa, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2UW neu drwy ebost b.s.f@bangor.ac.uk
Dylai pob cais fod yn wreiddiol, maint A4 ac wedi eu marcio’n amlwg â'r wybodaeth ganlynol:
• Enw
• Oed
• Cyfeiriad
• Rhif ffôn cyswllt (yn ystod y dydd a gyda'r nos)
• Enw'r ysgol a dosbarth
• Teitl y gwaith a ffynhonnell eich ysbrydoliaeth
Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich ceisiadau yw dydd Gwener 27 Chwefror, 2016
Trefnir y gystadleuaeth unigryw hon gan Ŵyl Wyddoniaeth Bangor fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2016