Cystadleuaeth Pwy ’di Pwy? Cyfle i ennill Ipod.
A ydych chi’n gallu adnabod lluniau rhai o’r artistiaid a fu’n perfformio yn Noson Pinaclau Pop 1968? Yna dewch draw i stondin Prifysgol Bangor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfle i ennill Ipod.
Mae’r gystadleuaeth yn seiliedig ar ddeunyddiau yr Archif Bop Cymru, sef casgliad unigryw o eitemau o fewn yr Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor, sydd yn ymwneud â cherddoriaeth bop yn yr iaith Gymraeg o’r 40au hyd at y presennol. Mae yn gyfle i chi ddangos eich gwybodaeth am gerddoriaeth pop Cymraeg yn y 60au trwy adnabod y lluniau ac artistiaid. Fe fydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Cwis Cerddorol am 1.00 pnawn Dydd Iau, Awst 9.
Cewch hefyd gyfle i ddysgu mwy am ddyfodol diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers degawdau am 12.30 brynhawn Iau Awst 9 ar stondin Prifysgol Bangor.
Mewn cyflwyniad gan fyfyriwr PhD Steffan Wyn Thomas o Brifysgol Bangor a Dafydd Roberts o gwmni Sain, o’r enw Gwerthiant Cerddoraieth yn yr Oes Ddigidol, cewch glywed canlyniadau ymchwil diweddar a thrafod datblygiadau posibl ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae Sain a Phrifysgol Bangor yn cydweithio ar gynllun KESS, sef ymchwil doethuriaeth am dair blynedd, fydd yn edrych ar fodelau’r dyfodol ar gyfer cynyddu’r incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth.
Mae’r cyflwyniad yn rhan o ddiwrnod digwyddiadau CERDD IAU, sef gweithgareddau a drefnir gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Yn ogystal â’r cyflwyniad mae 'na ddigon o hwyl i’w gael - a rhywbeth at ddant pob oedran.
Mae’r diwrnod yn dechrau efo gweithdy Cyfansoddi Caneuon am 11.00 ac eto am 2.30. Mae’r gweithdy’n cael ei gynnal gan Owain Llwyd a Peredur Glyn Davies.
Ar ôl perfformiad gan Glain Dafydd ar y Delyn am 12.00, ac yna eto am 2.00, bydd cyfle i ymlacio wrth fwynhau Cwis Cerdd hwyliog, fydd yn dechrau am 1.00 - dewch i weld pwy yw’r gwir wybodusion cerddorol.
I gloi’r diwrnod, dewch draw i babell Prifysgol Bangor i fwynhau cerddoriaeth Ynyr Llwyd am 3.30.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012