Cystadleuaeth ‘Spelling Bee’ Llwybrau at Ieithoedd Cymru - Rownd Ranbarthol
Roedd cyffro yn rownd ranbarthol cystadleuaeth ‘Spelling Bee’ yn Venue Cymru, Llandudno yn ddiweddar. Trefnir y gystadleuaeth, lle gofynnir i gystadleuwyr sillafu geiriau mewn amrywiaeth o ieithoedd Ewropeaidd, gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Cafwyd disgyblion Ieithoedd Modern o 10 ysgol wahanol yn cystadlu yn Rownd Derfynol Ranbarthol gogledd Cymru eleni. Yr ysgolion a gymerodd ran oedd Aberconwy, Bryn Elian, Eirias, Friars, Maes Garmon, Y Drenewydd, Ysgol Santes Ffraid, Dewi Sant, St Joseph a Tryfan. Cymerodd y cystadleuwyr ran mewn pedair cystadleuaeth wahanol: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg fel Ail Iaith. Bu'r cystadleuwyr yn bencampwyr cystadlaethau sillafu yn eu hysgolion i ennill eu lle yn y rownd derfynol ranbarthol.
Dywedodd Ruben Chapela-Orri, Swyddog Cymorth Gogledd Cymru ar gyfer y project: "Unwaith eto eleni, mae safon yr iaith a'r ymroddiad a ddangoswyd gan yr holl gystadleuwyr wedi bod yn rhagorol. Mae hon yn gystadleuaeth lwyddiannus iawn ac rwy'n edrych ymlaen at y Rownd Derfynol Genedlaethol yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf. Rhaid nodi na fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth gan dîm o Brifysgol Bangor gan gynnwys myfyrwyr iaith, myfyrwyr Erasmus, Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru a staff o'r Ysgol Ieithoedd Modern."
Dywedodd Susie Turnbull, Prif Lysgennad Iaith ym Mhrifysgol Bangor: "Fe wnes i fwynhau helpu gyda’r gystadleuaeth ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc oedd yn frwdfrydig dros ddysgu geiriau newydd mewn ieithoedd gwahanol. Roedd wir yn ddiwrnod gwych ar gyfer ieithoedd modern!"
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013