Cystadleuaeth Syniadau Busnes yn creu posibiliadau diddorol
Gêm antur awyr agored sy’n hyrwyddo diddordeb mewn hanes yw’r syniad busnes diddorol sydd wedi bachu dychymyg y beirniaid mewn Cystadleuaeth Fusnes ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Noddwyd y gystadleuaeth i fyfyrwyr gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’n un o nifer o weithgareddau a gynhaliwyd gan Broject Byddwch Fentrus o eiddo Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, er mwyn sbarduno, creu a chodi ymwybyddiaeth o fenter ymysg myfyrwyr a graddedigion.
Gwahoddwyd syniadau am gynnyrch, gwasanaeth neu fenter gymdeithasol a dyfarnwyd y ceisiadau yn ôl meini prawf creadigrwydd, arloesiad a dichonolrwydd.
Y cais llwyddiannus oedd syniad i ddatblygu gêm antur yn seiliedig ar sefyllfa ddychmygol, sy’n cynnwys elfennau rhyngweithiol ac yn cynnig posibiliadau o ran defnyddio pynciau eraill fel sail. Er enghraifft, gellid ei defnyddio i hyrwyddo diddordeb mewn Hanes Cymru wrth bob math o bobl. Enillodd Sonia Fizek, myfyrwraig ôl-raddedig yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau’r Brifysgol iPad fel gwobr.
Meddai Sonia: “Roedd yn anodd crynhoi fy syniadau i 200 air – ond yn hynny o beth, roedd yn ymarfer da, gan fy mod i wedi gorfod cywasgu fy syniadau i rywbeth mwy ymarferol. Daw syniadau’n rhwydd i mi – ac mae’n bosibl y datblygaf fy syniad yn y dyfodol ond, am y tro, rwy’n canolbwyntio ar orffen fy noethuriaeth. Rwy’n edrych ar gymeriadau mewn gemau fideo chwarae rôl. Rwy’n anelu at gael swydd yn y byd academaidd neu ddatblygu fy musnes fy hun yn y pen draw, felly bu’r gystadleuaeth hon yn brofiad diddorol.”
Roedd ansawdd a gwreiddioldeb y syniadau ac ysbryd mentergarwch myfyrwyr Bangor wedi creu argraff dda ar Gadeirydd y beirniaid, Chris Walker o Venture Wales.
“Roedd yn bleser edrych ar y 34 syniad busnes diddorol, unigryw a mentrus a gyflwynwyd, eu hystyried, a’u hasesu. Gyda chymaint o syniadau da i ddewis o’u plith, roedd yn sialens go iawn penderfynu pa un oedd yr un mwyaf dichonol a blaengar. Roedd ystod eang o syniadau – o gynnyrch ecogyfeillgar, syniadau ynglŷn â bwyd, bar-godio yn y cartref, at fathau gwahanol o wefannau a gwasanaethau treftadaeth. Does dim dwywaith nad oes posibiliadau da i nifer sylweddol o’r syniadau hyn, ac y byddant yn werth eu harchwilio ymhellach,” meddai Chris Walker, mentor busnes Prifysgol Bangor dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad, a fydd yn cynnig cymorth am ddim i’r myfyrwyr ddatblygu eu syniadau.
Hoffai Tîm Byddwch Fentrus ddiolch i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran am eu syniadau diddorol ac arloesol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2010