Cytundeb Newydd yn dod â Bargyfreithwyr i ogledd Cymru
O ganlyniad i gytundeb rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Linenhall Chambers, un o Siambrau Bargyfreithwyr amlycaf Cymru, bydd yn haws i gyfreithwyr yng Ngogledd Cymru gael mynediad at y cyngor cyfreithiol gorau. O ganlyniad i’r bartneriaeth hanesyddol â Phrifysgol Bangor, bydd y Siambrau Bargyfreithwyr yn gweithredu o fewn Ysgol y Gyfraith, gyda myfyrwyr yn cael cyfle i brofi bywyd gydag un o brif gwmnïau bargyfreithwyr gwledydd Prydain.
Er bod Linenhall Chambers wedi cael eu hystyried ers cryn amser fel y prif Siambrau i Ogledd Cymru, gyda llawer o’u Bargyfreithwyr yn gweithredu’n ddwyieithog, mae eu prif swyddfa dros y ffin yng Nghaer. Bydd y cynllun newydd hwn yn eu galluogi i fwrw gwreiddiau dyfnach yng ngogledd orllewin a gorllewin Cymru, gan gymryd rhan uniongyrchol mewn datblygu rhai a fydd yn aelodau o’r Bar yn y dyfodol.
Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn galluogi i gyfarfodydd rheolaidd gael eu cynnal rhwng bargyfreithwyr, cyfreithwyr fydd yn eu cyfarwyddo, a’u cleientiaid.
Bydd yr ystafelloedd cyfarfod hyn yn ffordd effeithiol iawn o ddod â chyfreithwyr lleol o ogledd orllewin Cymru ar y campws yn rheolaidd, gan ddod i gysylltiad agos nid yn unig â Linenhall Chambers, ond hefyd ag Ysgol y Gyfraith.
Fel rhan o’r berthynas, bydd myfyrwyr yn cael y profiad gwerthfawr o ddilyn Bargyfreithwyr wrth eu gwaith trwy gynllun interniaethau pedair wythnos. Bydd y ‘tymhorau prawf byr’ hyn yn rhoi mantais gystadleuol eithriadol i Ysgol y Gyfraith Bangor wrth iddi recriwtio myfyrwyr newydd, gan yr ystyrir tymhorau prawf byr yn rhan allweddol o geisio sefydlu gyrfa yn y Bar, ond maent yn hynod anodd eu cael.
Caiff y bartneriaeth newydd ei lansio gerbron cynulleidfa o gyfreithwyr o bob rhan o Ogledd Cymru mewn seminar a gynhelir yn Ysgol y Gyfraith Bangor ar Ddydd Gŵyl Dewi. Bydd Yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn annerch y seminar , yn ogystal â chyflwyniadau gan nifer o Fargyfreithwyr mwyaf amlwg Linenhall.
Meddai Pennaeth Siambrau Linenhall, Anthony O’Toole “Mae’n bleser mawr gennym sefydlu’r bartneriaeth bwysig yma ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, gan ei fod yn dangos ein hymrwymiad i roi gwasanaethau cyfreithiol o’r safon uchaf ar draws ystod eang o ddisgyblaethau i Ogledd Cymru.”
“Mae’r ddarpariaeth newydd yma yng Ngogledd Orllewin Cymru yn enghraifft arall o’n penderfyniad i hwyluso’r ffordd i bobl at ein Bargyfreithwyr a datblygu cysylltiadau yn y gymuned.”
Meddai’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, “Mae Linenhall Chambers i’w llongyfarch am eu menter yn dod i’n gweld i sefydlu’r cyfleusterau cyfarfod hyn yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Rwy’n edmygu nid yn unig eu bwriad i feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned gyfreithiol a dinasyddion Gogledd Cymru, ond hefyd eu gweledigaeth yn cynnig tymhorau prawf byr gwerthfawr i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor a fydd yn helpu i ddatblygu cenedlaethol o Fargyfreithwyr i’r rhanbarth yn y dyfodol.
Bydd cyfreithwyr yng ngogledd a gogledd orllewin Cymru hefyd yn gweld y cyfleusterau hyn yn adnodd hynod werthfawr, a bydd eu cleientiaid hefyd ar eu hennill. Rwy’n credu y bydd y cynllun hwn gan Linenhall yn meithrin cysylltiadau agosach fyth rhwng y Brifysgol a chymunedau’r rhanbarth, trwy hwyluso trafodaethau rhwng Cyfreithwyr a Bargyfreithwyr mewn man sy’n agos at y bobl y bwriedir i’r Gyfraith eu gwasanaethu.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013