Dadansoddi digwyddiadau diweddar yng Nghatalunya yng nghyd-destun hanes Sbaen yn y 21 Ganrif
Efallai fod y terfysg a welwyd yn sgil refferendwm annibyniaeth Catalunya ar gychwyn y mis, a’r streic gyffredinol a ddilynodd hynny, wedi peri syndod i rai ond nid i’r rhai hynny sy’n fwy cyfarwydd â hanes gwleidyddiaeth Sbaen.
Yn ôl Dr Helena Miguélez-Carballeira o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, dylid edrych ar ddigwyddiadau cyfoes a’u hystyried oddi mewn i gyd-destun mwy hanesyddol ei naws.
Mae Dr Miguélez-Carballeira wedi trefnu digwyddiad ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd er mwyn gosod y digwyddiadau hyn yn eu cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol.
Cynhelir Understanding independence in contemporary Spain: notes on the Catalan referendum ddydd Gwener, 27ain Hydref, 2017 rhwng 3pm - 5pm. Mae lleoedd yn brin felly mae’n rhaid archebu lle drwy gofrestru ar gyfer y cyfarfod. I wneud hyn, ewch at y dudalen digwyddiadau ar wefan y Brifysgol i ganfod y digwyddiad ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.
Roedd Dr Helena Miguélez-Carballeira yn lygad-dyst i rai o’r digwyddiadau yng Nghatalunya yn ystod y refferendwm, a bydd yn siarad yn y digwyddiad. Mae hi’n arbenigo ar wleidyddiaeth Sbaen a gwrthdaro cenedlaethol a mae’n awdur llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef Contested Colonialities in the Long Spanish Century: Empire, Nation and Independence (Palgrave).
Bydd Hywel Williams AS, Plaid Cymru hefyd yn siarad. Roedd yntau hefyd yn y rhanbarth ar gyfer y refferendwm yn ei rôl fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Tŷ’r Cyffredin ar Gatalunya.
Fel yr esboniodd Dr Miguélez-Carballeira:
“Mae hanes hir i’r digwyddiadau diweddar yng Nghatalunya. Maent yn adlewyrchu achosion na chafodd eu ddatrys yn hanes blaenorol Sbaen. Trafodwyd yr hawl i hunanbenderfyniaeth pan grëwyd Cyfansoddiad Sbaen ym 1978, ond mae’r cwestiwn yn ail-godi ei ben gyda dialedd.”
Mae’r wladwriaeth fodern yn Sbaen wastad wedi arddel safbwynt ganolaethol tuag at hawliau am ragor o bwerau datganoledig o ran cenedlaetholwyr Gwlad y Basg a Chatalanunya.
Mae’r refferendwm yng Nghatalunya ar Hydref 1af wedi creu argyfwng cyfansoddiadol heb ei debyg yn y cyfnod Ôl-Franco.
“Mae ymgyrchoedd annibyniaeth neu cenedlaetholaidd yn y gorffennol, fel rhai gan fudiad ETA y Basgwyr, wedi bod yn dyst i weithgareddau eithafol, nes i ETA ymwrthod â gweithredoedd terfysgol yn 2001. Yr hyn sy’n wahanol am y mudiad annibyniaeth diweddar yng Nghatalunya yw ei fod wedi ei wreiddio mewn ymddygiad hollol heddychlon, sydd, y gellir dadlau, wedi gwneud i ymateb y llywodraeth ganolog ymddangos yn llawdrwm.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017