Dadorchuddio dyluniadau Parc Gwyddoniaeth Menai gydag ymweliad y Gweinidog i’r safle
Cymerodd datblygiad Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) gam arall ymlaen heddiw gyda dadorchuddio'r dyluniadau pensaernïol ar gyfer yr adeilad cyntaf arfaethedig ar y safle yng Ngaerwen yn ystod ymweliad gan y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yr wythnos diwethaf, £10m o gyllid gan yr UE ar gyfer M-SParc, sydd, ynghyd â chyllid £10m eisoes gan Lywodraeth Cymru, yn cwblhau’r pecyn buddsoddiad sydd angen ar y datblygiad.
Fe welodd Mrs Hart y cynlluniau ar gyfer y parc gwyddoniaeth £20m gyda Chyfarwyddwr M-SParc, Ieuan Wyn Jones; Cadeirydd M-SParc ac Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, ac arweinydd gwyddoniaeth ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai, Sian Hope OBE.
Mae'r adeilad tri llawr 5000 medr sgwâr - a fydd yn cael ei adeiladu i safonau Rhagoriaeth BREEAM - yn ffurfio canolbwynt ar gyfer y Parc cyfan ac yn gwneud y gorau o'r golygfeydd syfrdanol ar draws i Eryri.
Mae'r dyluniadau gan bractis pensaernïol FaulknerBrowns sydd wedi llwyddo i gyflwyno nifer o brosiectau tebyg, gan gynnwys canolfannau ymchwil arloesi a gwyddoniaeth ar draws parciau gwyddoniaeth a champysau prifysgol - yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae cynlluniau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai yn symud ymlaen ar gyflymder. Mae heddiw yn nodi carreg filltir arall mewn pennod newydd sy’n argoeli i fod yn gyffrous a deinamig i’r Ynys a'i heconomi.
"Mae ffocws y Parc ar ynni a thechnoleg lân a’i gynlluniau i gysylltu ymchwil academaidd gydag arbenigedd masnachol wedi’i dylunio i greu swyddi newydd, denu buddsoddiad newydd a chefnogi twf i fusnesau. Yn fwy na dim, mae ar flaen y gad i wneud y gorau o'r manteision economaidd real iawn a gyflwynir drwy biblinell o fuddsoddiadau ynni mawr sydd ar y gweill ar gyfer yr Ynys."
Fel rhan o'r broses gynllunio, bydd M-SParc yn cynnal digwyddiad ymgynghori cyhoeddus i arddangos y dyluniadau arfaethedig ar gyfer yr adeilad cyntaf ar y safle. Bydd hyn yn digwydd ar ddydd Iau 29 Hydref rhwng 10:30-19:30 yn festri capel Disgwylfa yng Ngaerwen. Bydd aelodau o'r Tîm Prosiect yn bresennol yn yr ymgynghoriad, a bydd y manylion hefyd ar gael ar y wefan newydd, www.m-sparc.com.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Prosiect, Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf, "Mae M-SParc yn anelu i greu amgylchedd cyffrous ac unigryw i gwmnïau a gweithwyr fel ei gilydd. Mae'n lle a fydd yn ysbrydoli, bydd yn llawn egni ac yn cefnogi gan dîm brwdfrydig M-SParc a fydd yn gweithio gyda thenantiaid i helpu eu busnesau i dyfu a ffynnu. Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r cynlluniau a ddatblygwyd gan FaulknerBrowns gyda'r cyhoedd.”
Ychwanegodd Andrew Kane ar ran FaulknerBrowns, "Rydym yn deall anghenion parciau gwyddoniaeth fel M-SParc o ofyniad gweithredol i ffactorau dylunio tu ôl i’r math hyn o adeilad. Rydym hefyd yn gwybod beth sydd ei angen er mwyn datblygu ymdeimlad cryf o gymuned ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm M-SParc a'i bartneriaid i gyflawni’r adeilad cyntaf."
Mae gweledigaeth 30-mlwydd M-SParc yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor i bobl leol, gan ddatblygu amgylchedd rhannu gwybodaeth a chreu canolbwynt economaidd mewn sectorau megis carbon, ynni a'r amgylchedd isel a TGCh. Mae'r parc gwyddoniaeth, sy'n elfen bwysig yn uchelgais strategol Prifysgol Bangor i ddatblygu gwyddoniaeth yn y rhanbarth, yn creu pont rhwng cwmnïau o'r fath a gweithgareddau ymchwil ac addysgu gwyddoniaeth helaeth y brifysgol. Nod y prosiect yw creu economi clwstwr unigryw i annog diwydiant ac ymchwil wyddonol bartneriaethau uwch-dechnoleg yng ngogledd-orllewin Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015