Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur
Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoli’n gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Cyhoeddir Arthur in the Celtic Languages, The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, gan Wasg Prifysgol Cymru ac fe’i golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnwys arolwg awdurdodol cynhwysfawr o lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn ieithoedd Celtaidd, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg.
Mae’r lansiad yn cymryd lle yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd, sy’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil rhyngwladol mewn astudiaethau Arthuraidd, ac mae’n dilyn symposiwm ar yr un pwnc a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor y llynedd.
Meddai ‘r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
“Bydd y llyfr hwn yn newid meddyliau ar y pwnc am genhedlaeth. Does yr un gyfrol wedi ymdrin â’r holl ailddweud chwedlau Arthur o’r canol oesoedd i’r cyfoes yn yr holl ieithoedd Celtaidd. Mae’r penodau yn ymdrin â thrafodaethau ysgolheigaidd mwyaf diweddar ar y pwnc ac yn agor cwysi newydd o ymchwil mewn astudiaethau’r Arthur Celtaidd.
“Dyna pam ein bod yn hynod falch o gael groesawu lansiad y gyfrol o bwys hon.”
“Bydd y gyfrol yn adnodd hanfodol ar gyfer unrhyw fyfyriwr straeon yr Arthur Celtaidd. Mae’n darparu mewnwelediadau newydd ar sut esblygodd ffigwr Arthur o arweinydd llwyth rhyfelgar (warband) yng Ngogledd Prydain y Canol oesoedd cynnar, i fod yn Frenin gyda llys a oedd man cychwyn anturiaethau marchogol. Mae hefyd yn cwmpasu sut y mae cymeriadau a straeon wedi eu hail-ddychmygu, eu hail gyflunio a’u hail-ddehongli dros y canrifoedd hyd at heddiw.”
Meddai Dr Aled Llion Jones, o Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Bangor:
“Mae’r llyfr newydd yma yn rhoi cyfle unigryw i ni weld sut y mae’r chwedlau Cymraeg cynnar wedi datblygu fel thema gyffredin i’r holl ieithoedd Celtaidd.”
Mae gan Prifysgol Bangor cyswllt hirhoedlog ag astudiaethau Celtaidd, ac mae’r Brifysgol yn cynnig cyfle prin i astudio llenyddiaeth Arthuraidd byd-eang ar lefel ôl radd. Mae gan y Brifysgol adnoddau heb eu hail, gan gynnwys llawer o lyfrau a llawysgrifau prin, ac mae’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd wedi croesawu dros 200 o ymweliadau ymchwil gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr o Brydain a thramor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019