Darlith Cyhoeddus 07/10/11 – Paul Harris S.C.
Ddydd Gwener, 7 Hydref bydd Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu Paul Harris S.C., arbenigwr ym maes hawliau dynol ac un o’r sidanwyr mwyaf blaenllaw yn Hong Kong. Bydd Mr Harris yn rhoi darlith am yrfaoedd yn y Bar, yn arbennig ym maes cyfraith ryngwladol a hawliau dynol.
Bu Mr Harris yn fyfyriwr i’r Athro Suzannah Linton yn ystod ei chyfnod yn Hong Kong. Mae’n ymarfer yn y Bar yn y DU ac yn Hong Kong, ac mae ei siambrau yn Llundain ar Doughty Street, lle mae siambrau'r goreuon sy'n arbenigo yn y math hwn o waith.
Mae Mr Harris hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Hawliau Dynol y Bar a'i lyfr diweddaraf yw The Right to Demonstrate (Rights Press 2007).
Cynhelir y ddarlith rhwng 5.00 a 6.00pm ddydd Gwener, 7 Hydref ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau. Mae’r ddarlith yn argoeli i fod yn un ddefnyddiol dros ben ac anogir myfyrwyr i wneud eu gorau i ddod. Bydd Mr Harris ar gael ar ôl y ddarlith yn ystafell 00.01 yn Neuadd Alun i ateb cwestiynau unigol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2011