Darlith Gyhoeddus Dr Rowan Williams: Worshipping God, Growing the Church, Loving the World.
Mae'n bleser mawr gan Dîm y Gaplaniaeth ym Mhrifysgol Bangor gyhoeddi y traddodir eu darlith gyhoeddus eleni gan Dr Rowan Williams. Mae Dr Williams yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol yn llenor, diwinydd, ysgolhaig ac athro nodedig ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth mewn ystod eang iawn o feysydd cysylltiedig yn cynnwys athroniaeth, diwinyddiaeth, ysbrydolrwydd ac estheteg grefyddol. Mae hefyd wedi ysgrifennu trwy gydol ei yrfa ar bynciau moesol, moesegol a chymdeithasol, ac yn fwy diweddar mae wedi troi ei sylw at faterion diwylliannol a rhyng-grefyddol cyfoes. Etholwyd Dr Williams yn Archesgob Caergaint yn 2002 a bu'n gwasanaethu fel archesgob hyd at ei ymddeoliad yn 2012; aeth ymlaen i dderbyn swydd Meistr Coleg Magdalene, Caergrawnt.
Bydd y ddarlith gyhoeddus hon yn trafod y berthynas rhwng addoli a gwasanaethu ymarferol er mwyn dangos nad oes gwrthgyferbyniad rhwng y ddau. Bydd yn edrych ar y pwysigrwydd inni o herio ein hamgyffred o realiti ac o’n gilydd er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethu yn effeithiol yn hytrach nag yn hunanol.
Mae’r ddarlith hon yn agored i bawb ac yn cael ei chynnal ar ddydd Llun 24 Ebrill am 7pm yn Narlithfa Lefel 5 Pontio. Saesneg fydd iaith y ddarlith.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017