Darlith gyhoeddus na ddylid ei cholli: “Research for Business and the Business of Research”
“Research for Business and the Business of Research”
George Buckley Prif Economegydd Prydain, Deutsche Bank.
Ystafell Stephenson, Adeilad y George, Safle’r Normal. 6pm i ddechrau am 6:15
Darlith gyhoeddus na ddylid ei cholli!
Mae George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, i’w weld, fel rheol, yn rhoi cyfweliadau ar y radio, y teledu a’r wasg genedlaethol. Ac yntau ei hun wedi graddio yn Ysgol Busnes Bangor, daw George yn awr â’i brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd, i Adeilad y George ym Mhrifysgol Bangor.
Ymunwch â ni am 6pm nos Lun, 30 Ebrill am gyfle gwych i glywed am astudiaeth, ymchwil a’r hyn mae’n ei olygu mewn cyd-destun busnes. Yn dilyn y ddarlith ceir lluniaeth a chyfle i fusnesau, academyddion a myfyrwyr gwrdd a sgwrsio.
I gofrestru ar gyfer y ddarlith, e-bostiwch Chris Hillier c.hillier@bangor.ac.uk
Daw’r ddarlith gyhoeddus hon i chi drwy Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2012