Darlith: ‘The strange death of British higher education’
Wrth i Gymru a gwledydd datganoledig eraill Prydain ddatblygu eu polisïau eu hunain yn ymwneud ag addysg Brifysgol, bydd Yr Athro Syr Deian Hopkin yn rhoi darlith gyhoeddus amserol ar ‘The strange death of British higher education’ ym Mhrifysgol Bangor am 6.30 ddydd Iau, 31 Mawrth, ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau yn y Brifysgol. Gwahoddir pawb i’r ddarlith hon, a fydd yn ein hysgogi i feddwl, ac ar y diwedd bydd cyfle i drafod rhai o’r materion a godwyd.
Yn ôl Yr Athro Syr Deian Hopkin: “Rydym yn sefyll ar drothwy cyfnod o newid eithriadol mewn addysg uwch, na welwyd ei debyg ers sefydlu’r Pwyllgor Grantiau Prifysgol yn 1919. Beth mae’r newid hwn yn ei olygu mewn gwirionedd ac a fydd dulliau tra gwahanol Cymru, Yr Alban a Lloegr o ymdrin ag addysg uwch yn golygu diwedd “addysg uwch Brydeinig” fel rydym ni wedi’i hadnabod?"
Prin y cafodd cyflwr prifysgolion Prydain ac addysg uwch, a’r rhagolygon sydd iddynt, gymaint o sylw ag y maent yn ei gael ar hyn o bryd. Wrth i doriadau sylweddol mewn cyllideb addysg uwch gael eu gweithredu gan bob un o bedair llywodraeth y DU, a’r ffaith y bydd y newidiadau arfaethedig i reoliadau fisa yn debygol o effeithio ar lif myfyrwyr tramor i wledydd Prydain, mae pob rhan o’r DU yn delio â’i haddysg uwch mewn gwahanol ffordd. Yn arbennig, mae mater ffioedd dysgu, a lefel cefnogaeth ariannol uniongyrchol gan y llywodraeth ar gyfer addysg uwch, wedi dod yn faterion lle gwelir cryn wahaniaeth rhwng Lloegr, Yr Alban a Chymru. Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau ynglŷn â dilysrwydd y term ‘addysg uwch Brydeinig’ erbyn hyn. Beth yw’r rhagolygon ar gyfer addysg uwch yn y DU? Sut fydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar safle rhyngwladol prifysgolion? Wrth i gydbwysedd cyfrannu ariannol symud oddi wrth y Wladwriaeth at yr unigolyn, a oes yna berygl y caiff yr hen syniad o addysg fel lles cyhoeddus gael ei aberthu er mwyn meithrin y syniad o ennill neu elw personol? A phwy, yn y pen draw, fydd yn elwa?
Treuliodd Deian Hopkin 44 mlynedd yn dysgu, ymchwilio a rheoli mewn addysg uwch. Bu’n gweithio mewn pum prifysgol, rhai cyn- ac ôl-1992, yn cynnwys 24 mlynedd yn Aberystwyth. Bu’n Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank Llundain ac yn Is-Ganghellor dros dro ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain. Yn 2009 cynhaliodd adolygiad annibynnol ar ran y llywodraeth i berfformiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac, yn 2010, fe’i penodwyd yn Gadeirydd interim y cwmni hwnnw. Mae’n aelod o’r Comisiwn Addysg Uwch holl-bleidiol, a sefydlwyd yn ddiweddar, ac yn Gadeirydd yr Uned Polisi Economi Leol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011