Darlithwyr Prifysgol Bangor yn Ennill Gwobr Addysgu Uchaf y DU
Mae’r Athro James Intriligator a Peggy Murphy o Brifysgol Bangor wedi cael eu gwneud yn Gymrodyr Dysgu Cenedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf y gellir ei hennill am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Yr Academi Addysg Uwch sy’n dyfarnu’r wobr, ac mae’r Cynllun Cymrodoriaethau Dysgu Cenedlaethol yn cydnabod a gwobrwyo addysgu a dysgu rhagorol; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a’r Adran Cyflogaeth a Dysgu yng Ngogledd Iwerddon (DELNI) sy’n cyllido’r cynllun.
Dywed yr Athro Nicky Callow, Deon Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad; “Mae’r ffaith fod yr Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd a Seicoleg ag aelodau staff sydd wedi ennill y Wobr fawreddog hon yn adlewyrchu’r addysgu a’r dysgu gwych a brofir gan fyfyrwyr ar draws y Coleg. Fel Coleg, rydym yn benderfynol o roi’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr; mae ein gwaith addysgu wedi’i lywio gan ymchwil, ac rydym yn bwriadu iddo roi gwybodaeth a medrau sy’n academaidd a hefyd yn arwain at gyflogadwyedd. Mae’r math hwn o gydnabyddiaeth allanol yn amlygu’r safonau uchel a gyrhaeddwn ni ym Mhrifysgol Bangor.”
Mae James Intriligator yn Athro Arloesi a Seicoleg Defnyddwyr yn yr Ysgol Seicoleg. Yn ogystal ag addysgu ar gyrsiau, mae James hefyd wedi helpu i ddatblygu a chynnal dwy raglen allgyrsiol, ryngddisgyblaethol arloesol sy’n adeiladu ar fedrau entrepreneuraidd myfyrwyr a hefyd ar eu cysylltiadau busnes lleol, sef Enterprise by Design a Social Enterprise Accelerator. Mae hefyd yn hyfforddi timau mewn cystadlaethau cenedlaethol ym meysydd busnes a menter, ac mae myfyrwyr wedi ennill sawl gwobr a chael sawl cynnig swydd o ganlyniad. Cyflwynodd James rai o’i newyddbethau yn y Gynhadledd Ryngwladol ar gyfer Addysgwyr Menter a gynhaliwyd yr haf diwethaf; bu’n siarad am addysg ym maes menter gymdeithasol, addysg fenter i lefel Meistr, addysg ryngddisgyblaethol ar sail profiad, a chyfryngau cymdeithasol a dulliau datrys problemau ar sail chwarae gêmau ar gyfer addysg menter.
Yn arloesydd ym maes Seicoleg Defnyddwyr, mae James yn cyflwyno newyddbethau i bob dim y mae’n ei wneud – ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. I ddisgrifio’r effaith a gaiff ef, roedd yn rhaid i fyfyrwyr ddyfeisio gwobr newydd ar gyfer James; yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 AAU/UCM, defnyddiasant y categori ‘agored’ i ddatgan ei fod yn “Bencampwr Cydraddoldeb a Rhyddid.” Yn 2013, enillodd anrhydedd unigryw arall, sef yr academydd cyntaf o Fangor i gael cadair bersonol, nid ar sail ymchwil ond, yn hytrach, am waith arloesol ac effaith mewn ymchwil ac addysgu.
Mae James yn ceisio ysbrydoli a chefnogi’r holl fyfyrwyr y mae’n cyfarfod â hwy. Mae am i’w fyfyrwyr garu dysgu, ac felly’n mynd â hwy ar daith o brofiadau ym mhob darlith. Mae’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu: fideos, hysbysebion, astudiaethau achos, gwesteion, gêmau, a chyfryngau cymdeithasol. Mae gan James arddull dysgu arloesol ac egnïol, a thrwy gydol ei yrfa, mae wedi cael adolygiadau gwych.
Enillodd ei wobr addysgu gyntaf yn 13 oed, pan gydnabu Clwb y Rotari ei waith mewn ysgol uwchradd leol. Yn ystod ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Califfornia, San Diego, recriwtiwyd ef i wasanaethu fel cynorthwy-ydd addysgu mewn sawl dosbarth athroniaeth ar lefel ddoethurol. Yn ddiweddarach, fel myfyriwr graddedig mewn seicoleg yn Harvard, enillodd James Wobr Addysgu fawreddog Canolfan Bok.
Meddai James, “Mae’n anrhydedd mawr imi ennill y wobr hon. Diolch o galon i’m myfyrwyr rhyfeddol ers 10 mlynedd – mae’r modd y maent yn dysgu, eu hymroddiad a’u mwynhad yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Ac rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Bangor ac, yn benodol, i’r Ysgol Seicoleg, am roi rhyddid a chefnogaeth imi – a’r ddau beth hyn yn ofynnol ar gyfer addysgu arloesol.”
Mae Peggy Murphy yn Ddarlithydd Nyrsio a Thiwtor Derbyn yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae hi’n nyrs brofiadol ac wedi gweithio yn y DU ac yn Awstralia fel nyrs staff mewn gofal dwys, a dyrchafwyd hi’n brif nyrs mewn meddygaeth acíwt.
Yr hyn sy’n ganolog i’w gwaith yw’r awydd i ennyn chwilfrydedd myfyrwyr er mwyn magu hyder academaidd. Mae Peggy yn taeru bod gofal nyrsio o ansawdd uchel yn ddibynnol ar safon uchel o addysg nyrsio. Ei phrofiad personol o fod â dyslecsia sydd wedi dylanwadu ar ei hathroniaeth ynglŷn ag addysgu a dysgu. Mae Peggy yn teimlo’n angerddol tuag at addysg gynhwysol ac yn credu bod gwella addysgu a dysgu i ganiatáu am wahanol anghenion yn fuddiol i’r holl fyfyrwyr.
Mae Peggy wedi gweithio’n galed gyda’r AAU ers dod yn Gymrawd yn 2006. Mae hi wedi canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr wrth hyrwyddo dal gafael mewn myfyrwyr a’u llwyddiant yn eu gwaith ar Feedforward. Project rhagweithiol oedd hwn, yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr i ddysgu sut i ddefnyddio adborth yn effeithiol. Mae ei phroject wedi’i gynnwys mewn nifer o gyhoeddiadau gan yr AAU. Bu’n weithgar yn trefnu seminarau a chyflwyno mewn cynadleddau gan yr AAU o fewn rhaglen What Works? Student Retention and Success. Yn ddiweddar, mae Peggy wedi’i phenodi’n achredydd o fewn yr AAU a bydd yn cefnogi gwaith yr Academi ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Meddai Peggy, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y Gymrodoriaeth Ddysgu Genedlaethol. Does dim llawer ers imi ddechrau gweithio ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf eisoes wedi synnu at y gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan dîm yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae’r Ysgol yn lle egnïol i weithio ac, ers y cychwyn cyntaf, rwyf wedi cael fy nghynnwys ar nifer o fentrau addysgu a dysgu. Bu dull y bartneriaeth o wella profiad myfyrwyr yn hollbwysig yn fy natblygiad personol a phroffesiynol fy hun. Rwyf wedi cynhyrfu’n lân wrth y syniad o fod yn rhan o Gymdeithas y Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at rannu syniadau â chydweithwyr ynglŷn ag arfer da mewn addysg uwch.”
Bydd James a Peggy yn cael eu gwobrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cyflwynir hyd at 55 o wobrau o £10,000 i gydnabod rhagoriaeth unigol. Bwriad y wobr yw hyrwyddo datblygiad proffesiynol Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol mewn addysgu a dysgu neu agweddau ar addysgeg.
Mae’r ddau’n ymuno â Dr Charles Buckley o’r Ysgol Addysg a Dr Fay Short o’r Ysgol Seicoleg fel aelodau o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill y wobr hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2014