Darlithydd Saesneg yn wreiddiol o’r Almaen yn derbyn tlws arbennig am ddysgu Cymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae darlithydd Saesneg o Brifysgol Bangor, Dr Karin Koehler, wedi ennill tlws Basil Davies am ei llwyddiant yn yr arholiad Cymraeg i oedolion CBAC. Dyfarnwyd y wobr i Karin, sy’n wreiddiol o’r Almaen, ar ôl iddi hi lwyddo i dderbyn y marc uchaf trwy Gymru gyfan yn yr arholiad Canolradd CBAC.
Derbyniodd yr un wobr llynedd ar lefel Mynediad, cystal ydi ei gallu i ddysgu Cymraeg neidiodd lefel (Sylfaen) ac ennill y tlws ar lefel Canolradd eleni.
Dywedodd Karin: “Dw i’n falch iawn fy mod i wedi ennill Tlws Coffa Basil Davies eleni. Diolch i deulu Basil Davies am sefydlu’r gwobrau, sy’n dangos i ddysgwyr ar bob lefel faint mae siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi a chefnogi ein hymdrechion i ddysgu a defnyddio’r iaith. Hefyd, dw i’n ddiolchgar iawn bod Prifysgol Bangor yn annog staff i ddatblygu sgil mor bwysig, a bod gen i gymaint o gydweithwyr a ffrindiau sy’n fy helpu i ymarfer a gwella. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel mewn amgylched mor gadarnhaol - mae o wedi agor llawer o ddrysau i mi. Mae tiwtoriaid Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn ysbrydoledig ac yn amyneddgar, felly mi faswn i’n argymell i bawb sy’n ystyried dysgu: ewch amdani!”
Wrth ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin:
“Mae llwyddiant Karin yn rhannol o ganlyniad i’w sgiliau ieithyddol arbennig iawn ond hefyd mae’n dangos be sy’n bosib i unrhyw un sy’n ymroi i ddysgu iaith ac sy’n manteisio ar bob cyfle i’w defnyddio hi fel mae Karin wedi’i wneud. Yr hyn sy’n braf i’w weld rŵan ydy ei brwdfrydedd wrth gefnogi dysgwyr eraill trwy drefnu grwpiau darllen a chyfleoedd i gyfarfod yn anffurfiol i siarad Cymraeg. Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd stori Karin yn ysbrydoliaeth i bobl eraill ddysgu Cymraeg yn yr ardal yma.”
Mae Tlws Basil Davies yn cael ei gydlynu trwy CBAC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a dyfarnwyd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddysgu Cymraeg yn yr ardal drwy ymweld â dysgucymraeg.cymru/go
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019