Darlithydd y Gyfraith yn ennill gwobr ymchwil bwysig
Dyfarnwyd gwobr ymchwil bwysig yr ‘Academic Platform Switzerland UN’ i Evelyne Schmid, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Bangor.
Rhwydwaith wedi ei lleoli yn Genefa yw ‘Academic Platform Switzerland UN’ sy’n ceisio meithrin ymchwil arloesol a rhagorol ar faterion yn ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r corff yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i wobrwyo traethodau rhagorol gan ymchwilwyr ifanc ar bwnc sy’n codi ymwybyddiaeth.
Mae Ms Schmid wrthi’n cwblhau doethuriaeth mewn cyfraith gyhoeddus ryngwladol yn y Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Datblygu i Raddedigion yn Genefa, ac roedd yn un o dri enillydd eleni. Enillodd wobr yn y categori i fyfyrwyr PhD am ei thraethawd "Economic, Social and Cultural Rights after Conflict: The Analysis of the United Nations Committee on ESCR and Potential Synergies with Transitional Justice". Yr enillydd arall yn y categori PhD oedd Bernhard Blumenau, tra enillwyd y categori Meistr gan David Roth-Isigkeit.
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd, yn enwedig mewn cynhadledd mor bwysig," meddai Ms Schmid, a ymunodd ag Ysgol y Gyfraith Bangor ym mis Tachwedd 2011. “Mae ennill y wobr hon yn rhoi hwb i mi barhau gyda fy ymchwil ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a system y Cenhedloedd Unedig. Ond yn bwysicach na hynny, mae'r wobr wedi fy rhoi mewn cysylltiad gyda Swyddfa’r Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol yn y Cenhedloedd Unedig, lle mae’r traethawd wedi ennyn llawer o ddiddordeb. Rwy’n awyddus i barhau gyda’r drafodaeth er mwyn i’r awgrymiadau a’r argymhellion sydd yn y traethawd gael eu hystyried yn nhrefn adrodd gwladwriaethau i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.”
Cyflwynwyd y wobr i Ms Schmid yng nghynhadledd flynyddol “Academic Platform Switzerland UN” a gynhaliwyd yn Genefa ar 1 Rhagfyr 2011. Thema cynhadledd eleni oedd comisiynau ymholi a theithiau casglu ffeithiau'r Cenhedloedd Unedig. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Michael Bothe, llywydd y Comisiwn Casglu Ffeithiau Dyngarol Rhyngwladol; Reed Brody, aelod o Gomisiwn Ymholi’r Cenhedloedd Unedig ar Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo 1997; Andrew Clapham, Athro yn y Gyfraith Ryngwladol; Philippe Kirsch, cyn-lywydd y Llys Troseddol Rhyngwladol a Phennaeth y Comisiwn Ymholi a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol i ymchwilio i droseddau yn erbyn hawliau dynol yn Libya 2011; a Vitit Muntarbhorn, Pennaeth y Comisiwn Ymholi ar Côte d’Ivoire a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011