Darlithydd yn cymryd rhan mewn cyfnewid staff i Wlad y Basg
Bu darlithydd o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar daith cyfnewid staff Erasmus i Wlad y Basg, yng Ngogledd Sbaen, yn ddiweddar.
Yn ystod ei hwythnos ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, Donostia, rhoddodd Dr Rhain Hodges, sef darlithydd yng Nghymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, darlithoedd a sesiynau gweithdy yn arbenigo mewn addysg ieithoedd lleiafrifol i fyfyrwyr Meistr. Tra yno, cafodd hefyd cyfle i astudio’r sefyllfa ieithyddol gan gymharu a gwrthgyferbynnu gyda’r sefyllfa yng Nghymru.
Bu Dr Hodges yn cyfrannu i’r dysgu ar raglen MA Amlieithrwydd y Brifysgol trwy gynnig darlithoedd yn sôn am effeithiau addysg cyfrwng Cymraeg ar gynllunio ieithyddol yng Nghymru, gan dynnu ar ei ymchwil sy’n trafod dewisiadau rhieni di-Gymraeg o addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni, Caerffili. Yn ogystal, buodd hi’n cynnig sesiynau ar siaradwyr ieithoedd lleiafrifol ‘newydd’ gan gyflwyno gwaith academaidd ar siaradwyr ‘newydd’ Cymraeg yng Nghymru.
Bwriad pennaf y daith oedd creu cysylltiadau allweddol a rhwydweithiau hollbwysig ar gyfer codi proffil y rhaglen MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol ym Mangor.
“Yn y pendraw, rydym yn gobeithio datblygu’r cyfnewid staff i fod yn gyfnewid myfyrwyr er mwyn rhoi cyfleoedd euraidd i fyfyrwyr Cymru a myfyrwyr Gwlad y Basg, fel ei gilydd, astudio sefyllfa ieithyddol y ddwy wlad gan gynhyrchu ymchwil cymharol, Ewropeaidd hollbwysig”, esboniodd Dr Hodges, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr y Cwrs MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012