Darlithydd yn dechrau blwyddyn academaidd newydd gyda dwy wobr
Mae Dr Teresa Crew, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, yn cychwyn ar flwyddyn newydd o ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor yn ddeiliad dwy wobr arbennig.
Gwobrwywyd Dr Crew gyda Gwobr Outstanding Teaching in Social Policy gan y Social Policy Association. Hefyd, yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol yn ddiweddar, fe ddyfarnwyd Cymrodoriaeth Dysgu’r Brifysgol i Teresa, sydd yn Gydlynydd y Flwyddyn Gyntaf (Gwyddorau Cymdeithas) yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas.
Meddai Dr Crew: “Rwyf wrth fy modd o gael derbyn y gwobrau hyn; mae’n teimlo fel ddoe yn unig pan y des i i Brifysgol Bangor ar gyfer fy ngradd. Rwy’n sicr na fyddwn wedi derbyn y gwobrau hyn heb gefnogaeth fy nghydweithwyr Gwyddorau Cymdeithas gwych! Mae gen i gefnogaeth mor dda, ond mae’n rhaid dweud mai fy mhrofiadau gyda fy myfyrwyr sydd yn gwneud y swydd yn un arbennig. Mae’r myfyrwyr yn chwilfrydig ac yn agored i ddysgu ac mae’n bleser cydweithio â nhw.”
Anrhydeddwyd Dr Crew gyda Chymrodoriaeth yr Higher Education Academy (FHEA) yn 2017. Bu hefyd yn gweithio fel aelod o Grŵp Tasg a Chwblhau y British Sociological Association i greu cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Cymdeithaseg Gymhwysol.
Prif ganolbwynt diddordebau dysgu ac ymchwil Dr Crew yw anghydraddoldeb cymdeithasol, Addysg Uwch a maes eang rhyw (gender). Enillodd ei Doethuriaeth gydag astudiaeth ar anghydraddoldebau mewn perthynas â dosbarth, rhyw a lleoliad, a gyllidwyd gan gyngor ymchwil cenedlaethol yr Economic and Social Research Council yn 2014.
Cyn gweithio ym Mhrifysgol Bangor bu Teresa yn gweithio ar draws gogledd Cymru; i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Mae hi’n aelod o fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018