Darlithydd yn lansio cyfnodolyn Dwyrain Asia newydd
Mae uwch ddarlithydd mewn diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu cyhoeddi cyfnodolyn newydd.
Mae Dr Kate Taylor-Jones yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, yn brif gyd-olygydd o'r cyfnodolyn newydd East Asian Journal of Popular Culture.
Mae'n gweithio ochr yn ochr â'r golygyddion Ann Heylen o National Taiwan Normal University a John Berra o Tsinghua University.
Yr East Asian Journal of Popular Culture yw'r cyfnodolyn academaidd cyntaf a adolygir gan gymheiriaid i ysgolheigion, athrawon a myfyrwyr o bob rhan o'r byd.
Gellir gweld y cyfnodolyn ar-lein yma.
Rhifyn arbennig
Hefyd y mis hwn lansiwyd rhifyn wedi'i olygu'n arbennig o'r cyfnodolyn mynediad agored ar-lein JOMEC, y mae Kate Taylor-Jones wedi'i olygu ochr yn ochr ag Yan Ying o'r Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau ym Mangor.
Mae'r rhifyn hwn yn gasgliad o bapurau o gynhadledd lwyddiannus iawn, Cultural Translation and East Asia: Film, Literature and Art, a gynhaliwyd ym Mangor yn 2012.
Mae'r cyfnodolyn ar-lein ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2014