Darlithydd yn trydar i helpu disgyblion astudio
Mae darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn paratoi i ddefnyddio Twitter fel adnodd adolygu ar gyfer disgyblion chweched dosbarth.
Fel rhan o raglen o waith er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion ac astudio Cymdeithaseg yn y Brifysgol, bydd Cynog Prys, Cymdeithasegydd sy’n arbenigo yn y defnydd o Gymraeg ar lein, yn cyflwyno cyngor adolygu o’r cyfrif Twitter @CymdeithasegUG yn ystod y tair wythnos cyn arholiadau lefel A yr haf yma.
Bydd y trydar cyntaf yn cael ei yrru ar Ddydd Iau, Ebrill 24ain gyda’r hashnod #cymdeithaseglefelA a bydd o leiaf un neges trydar yn crisialu gwybodaeth berthnasol am y pwnc yn cael ei ryddhau pob dydd.
Dywedodd Cynog: “Mae ymchwil sydd wedi cael ei gynnal gan yr ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn dangos bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gwneud defnydd helaeth o wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter.
“Fel addysgwyr rydym o hyd yn chwilio am gyfleodd i gyfoethogi'r profiad dysgu a thrio pethau newydd. Mae natur gryno Twiter yn benthyg ei hun yn dda iawn i'r broses o adolygu a gall helpu ddisgyblion/myfyrwyr i grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol i bwyntiau byr a chofiadwy. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn defnyddio ffonau clyfar erbyn hyn ac yn gyfarwydd efo'r dechnoleg. Golygai hyn bod modd iddynt ddarllen y trydar ac adolygu yn unrhyw le (e.e. ar y bws neu yn y bath!)
“Y gobaith yw y bydd creu ffrwd Twitter o gymorth i'r sawl sy'n astudio'r pwnc yn y Gymraeg at ei lefel A, ac yn codi ymwybyddiaeth o bosibiliadau astudio'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol.”
Dywedodd Myfanwy Davies, sydd yn Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ac aelod o staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o dan eu Cynllun Staffio Academaidd: “Ar hyn o bryd mae yna brinder mawr o ran adnoddau dysgu Cymdeithaseg lefel A yn y Gymraeg. O ganlyniad mae llawer o athrawon yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond troi at y Saesneg gan arwain at fyfyrwyr yn colli’r gallu i drafod eu pwnc yn y Gymraeg.
“Mae yna ysgolion eraill ble mae’r athrawon yn cynhyrchu deunyddiau Cymraeg ei hunain ar ben pob dim arall. O ganlyniad i drafod gyda’r criw ymroddedig yna, penderfynom gynnig cymorth adolygu.
“Mae Twitter yn gyfrwng delfrydol ar gyfer negeseuon cryno, uniongyrchol. Allwch chi wamalu o fewn 140 llythyren! Mae’n rhaid mynd at gnewyllyn pethau. Gobeithiwn mai dyma’n union sydd eisiau i roi trefn ar nodiadau lefel A!”
https://twitter.com/CymdeithasegUG
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014