Darlithydd yn y Gyfraith o Fangor yn cael ei phenodi'n Gymrawd Academaidd yn yr Inner Temple
Mae Dr Yvonne McDermott Rees, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei phenodi i swydd dair blynedd bwysig fel Cymrawd Academaidd Cymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple.
Mae Dr McDermott Rees yn un o ddim ond pedwar o academyddion blaenllaw a ddewiswyd gan Gymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple, un o bedwar Ysbyty'r Brawdlys yng Nghymru a Lloegr. Ysbytai'r Brawdlys yn unig sydd â'r hawl i alw ymgeiswyr i weithredu wrth Far Cymru a Lloegr. Mae Cynllun Cymrodyr Academaidd yr Inner Temple yn cydnabod cyfraniad nodedig academyddion ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ym maes dysgu ac ymchwil yn y gyfraith. Ei nod hefyd yw cefnogi eu hymchwil a meithrin cysylltiad cryfach rhwng y Bar, y farnwriaeth a'r gyfraith yn y byd academaidd.
Yn ogystal â darlithio i fyfyrwyr, Dr McDermott Rees yw Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Ysgol y Gyfraith a chyd Gyfarwyddwr Canolfan Cyfraith Ryngwladol Bangor.
Mae ymchwil Dr McDermott Rees yn cynnwys cyfraith droseddol ryngwladol, trefn droseddol ryngwladol, hawliau dynol a chyfraith tystiolaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn hawliau diffynyddion i brawf teg ac yn ddiweddar mae wedi cael cytundeb gan y Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop i hyfforddi barnwyr a chyfreithwyr yn Tiblisi, Georgia, ar yr hawl i gael prawf teg.
Meddai Yvonne McDermott Rees: “Rwyf wrth fy modd ac yn ei theimlo'n anrhydedd mawr i gael fy newis o blith grŵp o ysgolheigion mor amlwg i wasanaethu fel un o Gymrodyr Academaidd yr Inner Temple. Bydd y gymrodoriaeth bwysig yma'n galluogi Ysgol y Gyfraith Bangor i ddatblygu cysylltiadau gyda rhai o brif fargyfreithwyr a barnwyr gwledydd Prydain, a bydd yn galluogi ein myfyrwyr i ddysgu mwy am yrfa yn y Bar drwy rai o weithgareddau estyn allan ac ehangu cyfranogiad niferus yr Inner Temple."
Meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, wrth groesawu'r newyddion diweddaraf hyn:
"Mae anrhydeddau'n dylifo i mewn i Ysgol Busnes Bangor, sy'n tystio i safon ragorol yr addysgu a'r ymchwil a wneir yma. O ystyried mai ychydig dros ddeng mlynedd sydd ers sefydlu'r Ysgol, mae'r hyn rydym wedi'i gyflawni'n rhyfeddol iawn. Mae penodi Dr McDermott yn Gymrawd Academaidd yn dod ond ychydig ddyddiau ar ôl i aelod arall o'n tîm dysgu gael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr bwysig Athro'r Gyfraith y Flwyddyn yn y DU, a'r llynedd cafodd cydweithiwr iddi ei rhoi ar y rhestr fer am yr un anrhydedd!"
"Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi perfformio'n rhyfeddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym yn y safle uchaf fel Ysgol y Gyfraith yng Nghymru ac yn y 5ed safle ar y cyd â sefydliad arall yng ngwledydd Prydain."
Meddai Patrick Maddams, Prif Weithredwr yr Inner Temple:
"Mae dadlau a thrafod yn bethau sydd wrth wraidd byd y gyfraith, boed wrth ei hymarfer neu yn y maes academaidd. Rydym yn croesawu’r cyfle i ddod ag ymarferwyr ac academyddion at ei gilydd - pobl rydym yn eu cydnabod am eu cyfraniad nodedig i ddysgu ac ymchwil yn y gyfraith. Mae ein Cymrodyr Academaidd newydd yn ymuno â chymuned o gymrodyr academaidd a chymrodyr academaidd cysylltiol o bob rhan o Gymru a Lloegr sy'n chwarae rhan bwysig yn addysg cyfreithwyr y dyfodol."
Fel rhan o ddathliadau ei phen-blwydd yn ddeg oed, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith Bangor Ffair y Gyfraith ddydd Mercher, 19 Tachwedd, o 9.45 tan 3.30pm. Roedd hwn yn gyfle i unrhyw un, o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith ei hun, i ddisgyblion ysgol uwchradd, rhai sydd yn ystyried newid gyrfa, ac eraill a all fod â diddordeb yn y gyfraith, i weld pa yrfaoedd sydd ar gael i bobl gyda gradd yn y gyfraith.
Dim ond y mis diwethaf cafodd 'ystafell llys' newydd Ysgol y Gyfraith, sydd i'w defnyddio ar gyfer cystadlaethau ffug lys barn, ei hagor yn ffurfiol gan yr Arglwydd Brif Ustus.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014