Darlithydd ‘ysbrydoledig’ ym Mangor i gario’r Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gario’r Fflam Olympaidd ar ôl cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr.
Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, i’r categori ‘Ysbrydoli Eraill trwy Addysg’ a bydd yn cario’r fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy – 15 milltir o Fangor – ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.
Ymunodd Sarah ag Ysgol y Gyfraith, Bangor yn 2006, ar ôl gwasanaethu am gyfnod byr gyda’r Llynges Frenhinol ac yna ennill gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n fabolgampwraig frwdfrydig ac wedi ennill ei bri fel rhedwr marathon cyn troi at triathlon. Hi oedd yr ifancaf i gystadlu yn Uwch Driathlon Cymru 2008 ac yr adeg honno, dim ond yr ail ferch i gwblhau'r cwrs. Hefyd llwyddodd i gwblhau Triathlon Ironman y DU a hi oedd y person cyntaf erioed o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ultraman Canada, sy’n cael ei ystyried fel y triathlon anoddaf yn y byd.
Er gwaethaf ei gallu athletaidd, enwebwyd Sarah fel cydnabyddiaeth am ei gwaith dysgu, gyda myfyrwyr yn rhoi ei henw gerbron am fod yn “academydd ac athro ysbrydoledig” ac yn “batrwm ymddwyn eithriadol”.
“Mae cael eich enwebu i gymryd rhan yn trosglwyddo’r Fflam Olympaidd yn anrhydedd mawr ynddo'i hun, ond mae'n golygu gymaint mwy yn dod oddi wrth y myfyrwyr", meddai Sarah. “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu am fy nysgu yn hytrach nag am chwaraeon. Mae’n rhoi llawer iawn o foddhad bod y myfyrwyr yn elwa cymaint o'u profiad yn Ysgol y Gyfraith Bangor ag yr ydym ni fel staff. Rwyf wedi gweld yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth yn ystod fy nghyfnod yma ac edrychaf ymlaen at weld beth sy’n dod nesaf. Yn y cyfamser, byddaf yn falch iawn o chwifio’r faner - neu’r fflam - i Brifysgol Bangor!”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012