Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (M-SParc) wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.
Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu economi clwstwr unigryw i annog diwydiant uwch-dechnoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru. Hefyd mae’r prosiect yn gwneud cais am gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae gweledigaeth M-SParc ar gyfer cyfnod o 30 mlynedd yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor hyfedr i bobl leol, gan ddatblygu amgylchedd o rannu gwybodaeth a chreu canolbwynt economaidd mewn sectorau megis carbon isel, ynni a’r amgylchedd a TGCh. Byddai’r parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmnïau o’r fath a Phrifysgol Bangor, sef perchnogion M-SParc.
Dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, “Mae’r caniatâd cynllunio amlinellol yn gam mawr ymlaen i M-SParc ac mae’n nodi cychwyn pennod newydd gyffrous yn adfywiad economaidd Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.
“Rydym yn gwybod yn nol tystiolaeth ryngwladol fod parciau gwyddoniaeth yn gweithio. Mae busnesau newydd wedi’u lleoli mewn parc gwyddoniaeth yn gallu disgwyl cyfradd lwyddo o 90% o gymharu â chyfradd lwyddo o 56% ar gyfer busnesau sy’n gweithredu y tu allan i amgylchedd parc gwyddoniaeth.
“Mae rhywfaint o ffordd i fynd cyn i ni dderbyn caniatâd cynllunio llawn, ond rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â’r gymuned leol yn y Gaerwen a’r cymunedau busnes ac ymchwil gwyddonol ehangach i greu parc gwyddoniaeth yn Ynys Môn.”
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwyddoniaeth ac arloesedd fel gyrwyr pwysig ar gyfer creu twf economaidd a swyddi. Rydym yn croesawu penderfyniad yr awdurdod cynllunio i gefnogi’r cyfleuster newydd hwn a fydd, gobeithio, yn cyfrannu’n sylweddol at dwf yr economi lleol ac yn arwain at greu swyddi hyfedr.”
Ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd yr Athro John G Hughes, “Mae’r penderfyniad cynllunio hwn yn newyddion gwych i Gymru gan y bydd M-SParc yn darparu canolfan unigryw ar gyfer masnacheiddio ymchwil gwyddonol arloesol a bydd yn gatalydd ar gyfer economi uwch-dechnoleg rhanbarthol gwirioneddol.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015