Datblygiadau Cyffroes yn yr Ysgol Cemeg
Mae Ysgol Cemeg Bangor yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill dau fid sylweddol iawn am gyllid yn ddiweddar.
Bydd y cyntaf o’r rhain yn mynd tuag at broject £20M BEACON sydd yn broject partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe. Bydd BEACON yn gwneud defnydd o’r arbenigedd academaidd cyfun ym meysydd biowyddorau planhigion, microbioleg, cemeg, biogyfansoddion ac asesu cylch oes. Bydd BEACON yn defnyddio deunydd cnydau nad ydynt yn addas ar gyfer bwyd i ddatblygu cynhyrchion arloesol a fydd yn adnewyddadwy a lleihau ôl-troed amgylcheddol. Byddant ar gael yn lleol gan leihau ein dibyniaeth ar nwyddau a gynhyrchir o betrolewm ar hyn o bryd.
Yr ail lwyddiant yw WINNS, project €2.6 miliwn i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector yn y rhyngwyneb rhwng cemeg a gwyddorau bywyd. Mae wedi ei ariannu o dan raglen INTERREG IVA 2007-2013 rhwng Iwerddon a Chymru a’i reoli yng Nghymru gan yr Ysgol Cemeg. Bydd “Rhwydwaith Sgiliau Gwyddonol “Cymru Iwerddon” (WINSS) yn helpu cwmnïau sy’n gweithio ar draws meysydd cemeg, gwyddorau bywyd a gwyddorau materol. Bydd y project yn cynnig ystod o hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol i ddatblygu’r arbenigedd sydd ei angen ar y sector.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012