Datblygiadau ym Mhrifysgol Bangor i arwain at newidiadau ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y DU
Bydd arbenigedd Prifysgol Bangor mewn gwella’r profiad a gaiff myfyriwr yn cael ei rannu er budd sefydliadau addysg uwch eraill yn y DU, ar ôl i’r Brifysgol gael ei dewis ar gyfer gwobr ariannol gan yr Academi Addysg Uwch (AAU).
Bydd y wobr yn gyfle i’r Brifysgol ddatblygu strategaethau sefydliadol y gellir eu rhannu ymysg y sector er mwyn gwella profiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Wedi i’r Brifysgol gymryd cyfres o gamau i wella profiad myfyrwyr israddedig a Meistr hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, mae’r Brifysgol wedi gweld cynnydd aruthrol yn ei safle yn Nhablau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) o safle 68 digon parchus i’r 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru.
Gwnaethpwyd hyn trwy gyflwyno nifer o fentrau, yn cynnwys cyflwyno systemau rheoli adborth myfyrwyr, a hynny’n cynyddu cyfranogiad myfyrwyr i’r eithaf.
Bellach, mae’r Brifysgol yn mynd i gyfuno hyn â nifer o fentrau eraill, i ddatblygu strategaethau cyffelyb a’u defnyddio ym maes mwy cymhleth myfyrwyr ymchwil doethurol. Bwriad y strategaeth newydd fydd ymestyn tryloywder a gwella mynediad at wybodaeth am brofiad y myfyriwr ymchwil ôl raddedig, fel y ceir gwell cysylltiad â myfyrwyr ac y bydd mwy yn cwblhau yn llwyddiannus ac mewn da bryd.
“Rydym wrth ein bodd fod ein llwyddiannau a’n harbenigedd wedi cael eu cydnabod gan y AAU a’n bod yn cymryd ein lle ymysg 34 sefydliad yn y DU sydd wedi eu dewis i ddatblygu meysydd penodol a fydd wedyn yn cael eu rhannu yn y sector, fel y bydd ansawdd addysg uwch yn y DU yn well fyth,” meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol.
Fel yr esbonia Dr Anita Malhotra, Pennaeth yr Ysgol Ddoethurol:
“Bydd y model newydd yn dod â llwyddiannau mewn meysydd eraill ynghyd – meysydd megis menter draws-Cymru rhaglen KESS, a ddatblygwyd ac a reolwyd gan Brifysgol Bangor ac sy’n darparu strwythur cydlynol, gan ychwanegu hyfforddiant sgiliau lefel-uchel at faes ymchwil academaidd draddodiadol, a’r Ysgol Ddoethurol, sy’n darparu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr ymchwil yn y Brifysgol.”
“O’i hanfod, mae’r ymchwil a wneir gan fyfyrwyr yn amrywio, fel bod cysoni cysylltiad yn fwy o her – her a gydnabyddir fel un sy’n gyffredin i bob sefydliad. Un agwedd ar y strategaeth sydd i’w datblygu yw ffocws ar ddarparu dulliau fel technegau reoli projectau, fel y gall myfyrwyr reoli eu hymchwil yn well, ochr yn ochr ag achrediad am hyfforddiant cysylltiedig y bydd myfyrwyr doethurol hefyd yn ei gael yn ystod eu hymchwil. I ategu hyn, bydd systemau ar-lein yn cysoni’r gefnogaeth ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethurol gymryd yr awenau o ran eu cysylltiad a’u goruchwylwyr. Bydd y project yn cael ei gyflawni drwy ymgynghoriad â staff a myfyrwyr drwy gydol y broses.”
Wrth sôn am y 80 o geisiadau am y gwobrau a ddaeth o sefydliadau addysg Uwch y DU, dywedodd Stephanie Marshall, Prif Weithredwr yr AAU, “Mae’r fenter yma yn ymwneud ag adnabod yr arweinyddiaeth sy’n achosi newid; mae’n ymwneud ag annog y broses o ddatblygu strategaethau arbenigedd; ac mae’n ymwneud â rhannu’r arfer gorau er budd myfyrwyr ar draws addysg uwch. Wrth rannu’r arfer gorau, ein hamcan yw cefnogi datblygiad ymdriniaethau a fydd yn cael effaith fawr ar arbenigedd, a chreu adnoddau dysgu ac addysgu ac astudiaethau achos pendant y mae modd i ni eu rhannu ar draws y sector.”
“Fel hyrwyddwr ansawdd dysgu, mae’r AAU mewn lle unigryw i ddefnyddio ei rhwydweithiau er mwyn cydweithio â darparwyr addysg uwch wrth rannu strategaethau, yr wyf yn sicr y byddant yn gwella canlyniadau myfyrwyr.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2015