Datblygu ap i ddysgwyr Cymraeg
Bydd dysgwyr Cymraeg sy’n heidio i’r dosbarth yn yr hydref, fel dysgwyr newydd neu rai sy’n parhau i ddysgu’r iaith, yn falch o glywed y bydd ‘ap’ newydd ar gael cyn bo hir, sydd wedi ei ddatblygu’n arbennig ar eu cyfer.
Mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor wrthi’n cydweithio gyda chwmnïau Moilin ac Optimwm i ddatblygu ap dysgu Cymraeg ar gyfer lefelau mynediad a sylfaen. Caiff yr ap ei lansio fis Medi a bydd yn cynnwys 19 templed rhyngweithiol wedi’u rhannu’n 44 uned.
Treialwyd yr ap yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli a chafodd ymateb gwresog iawn. Roedd y dysgwyr yn mwynhau chwarae gyda’r templedi llenwi bylchau, paru llun a gair, strwythuro deialog, ymarfer ynganu a recordio llais. Wrth ymateb i’r templed sy’n dysgu sut i ynganu dywedodd un o’r dysgwyr,
“I really liked this activity. This is what I need, to be able to hear how it’s said and then practise. Speaking and hearing like this is ideal.”
Bydd yr ap lefel mynediad yn barod ddiwedd Medi ac ar gael ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android. Bydd lefel sylfaen ar gael erbyn mis Rhagfyr.
Bydd yr ap hefyd yn rhan o ymchwil PhD fydd yn edrych ar ba mor ddylanwadol yw’r gwahanol ddulliau o ddysgu electronig wrth ail-greu rhyngweithio dosbarth mewn cyd-destun Cymraeg i Oedolion. Cynhelir yr ymchwil gan Lowri Mair Jones sy’n gweithio fel Swyddog Technolegau Newydd i’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion dan arweiniad Dr Enlli Thomas o’r Ysgol Addysg. Meddai Dr Enlli Thomas,
"Mae'r math hwn o ddatblygiad yn hollbwysig yn y byd technolegol sydd ohoni, ac yn ennyn diddordeb dysgwyr yn yr iaith mewn nifer o wahanol ffyrdd - tu allan i wersi ffurfiol -mewn ffyrdd nad oedd yn bosib cyn hyn."
Wrth sôn am y cyfnod treialu yn yr Eisteddfod dywedodd Lowri Mair Jones,
“Roedd y cyfnod treialu cyntaf yn yr Eisteddfod yn llwyddiannus. Cawsom sylwadau rhagorol ac adeiladol iawn. Mae’n adeg gyffrous iawn gan ein bod yn lansio’r ap ac yn dechrau casglu data ymchwil. Nid oes ap dysgu Cymraeg mor rhyngweithiol â hwn ar gael ar hyn o bryd. Gobeithio ein bod yn creu rhywbeth fydd o gymorth mawr i ddysgwyr Cymraeg.”
Bydd yr ap ar gael i’w lawrlwytho ddiwedd fis Medi a bydd y Ganolfan yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr ymchwil trwy dreialu’r ap a thechnolegau eraill. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o’r ymchwil anfonwch e-bost at lowri.m.jones@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen strwythuredig ac effeithiol i oedolion sy'n dysgu Cymraeg, a chaiff ystod eang o gyrsiau eu cynnig ar draws ogledd Cymru ar ran Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru.
Mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o'r cyfuniad o gyrsiau sydd wedi eu graddio'n ofalus, tiwtoriaid hynod brofiadol ac ymrwymedig a gwasanaethau cefnogi o'r radd flaenaf. Bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn dechrau tua diwedd mis Medi. Am ragor wybodaeth, cyngor neu arweiniad ynglŷn â’r lefel fwyaf priodol i chi, ffoniwch 01248 382752.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2014