Datblygu neuaddau myfyrwyr y Santes Fair
Dewiswyd consortiwm o dri chwmni i ddatblygu safle preswyl Prifysgol Bangor yn y Santes Fair. Bydd buddsoddiad o dros £30 miliwn yn dod â bywyd newydd i safle nas defnyddiwyd i raddau helaeth ers blynyddoedd lawer.
Nod y Brifysgol yw ymateb i'r galw gan fyfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn sydd eisiau byw mewn neuaddau, gan alluogi cau'r neuaddau hŷn ar Safle'r Normal hefyd. Bydd y datblygiad newydd hwn o 600 o ystafelloedd yn galluogi i'r Brifysgol gau 200 o ystafelloedd a adeiladwyd yn y 1960au ar Safle'r Normal.
Ar hyn o bryd, mae nifer o fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn ceisio am le mewn neuaddau a reolir gan y Brifysgol, ond oherwydd diffyg lle mae’n rhaid iddynt droi at lety a rentir yn breifat ledled y ddinas.
Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: “Bydd yr ystafelloedd newydd yn cynnwys yr holl gyfleusterau y byddai myfyrwyr heddiw yn disgwyl eu gweld ar gampws preswyl modern. Bydd yn cynnig y gorau i fyfyrwyr mewn cyfforddusrwydd a chynllun gyda chaffi bar, siop, lle golchi dillad a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd i gyd ar y safle. Wrth wraidd y cynllun mae ymrwymiad i ddarparu gwir ymdeimlad o gymuned gyda gwell amgylchedd i gymdeithasu a byw ynddo.”
Ychwanegodd yr Athro Tully: “Drwy ddatblygu safle'r Santes Fair, bydd y Brifysgol yn gwneud defnydd cynaliadwy o eiddo sydd ar gael eisoes, ac yn creu adeiladau newydd sy'n cyrraedd safonau rhagorol BREAAM, gan ddiwallu anghenion amgylcheddol cynyddol yr oes sydd ohoni. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys cynllun beiciau trydan er mwyn annog dulliau cynaliadwy o deithio.”
Yn ogystal â chadw'r Cwadrangl gwreiddiol ac adeiladau 1906, bydd y datblygiad yn creu cymysgedd gwych o gyfleusterau a rennir o amgylch ‘sgwâr y pentref’ newydd yng nghalon y gymuned. Y tri chwmni a ddewiswyd i ddatblygu'r project yw Cityheart Cyf, sy'n arwain y project, Vinci Construction UK Cyf, a CRM Cyf. FaulknerBrowns yw’r penseiri. Bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno cyn bo hir. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, disgwylir i’r gwaith gael ei orffen erbyn Medi 2015 gyda'r gwaith dymchwel yn dechrau yng ngwanwyn 2014.
Yn ystod y datblygiad, mae'r Consortiwm wedi addo cefnogi'r gymuned a'r economi leol drwy ymrwymo i brentisiaethau newydd, lleoliadau gwaith, a chynlluniau cymunedol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2014