Dathliad creadigol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Bydd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a Gŵyl Gerdd Bangor yn cyfrannu at ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth trwy ddarlledu cyngerdd o gerddoriaeth gerddorfaol gan bum cyfansoddwraig o Gymru ar BBC Radio 3.
Mared Emlyn o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw un o’r cyfansoddwyr, a gwblhaodd ei PhD mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ddwy flynedd yn ôl. Daeth ysbrydolaeth ei darn newydd, Porthor, o’r traeth o’r un enw ym Mhenrhyn Llŷn, sy’n enwog am y sŵn arbennig a grëir drwy gerdded ar y tywod; o hyn daw ei enw Saesneg, ‘Whistling Sands’.
Disgrifiodd Mared ei darn: “Wedi ei ysbrydoli gan draeth Porthor a’i ffenomenon ryfedd, a thema’r Ŵyl Gerdd sef ‘Llais/Lleisiau’, agorir y gwaith gydag unawd heddychlon, mynegiannol gan y cor anglais, sydd bron a bod yn darlunio traeth unig yn y gaeaf. Mae’r gwaith yn gwneud defnydd o offerynnau taro amlwg, yn enwedig y bloc pren, sy’n cynrychioli y gronynnau tywod yn taro ei gilydd. Mae yma liwiau tywyll yn ogystal ag adrannau rhythmig ysgafnach.”
Cafodd y darn ei berfformiad cyntaf y byd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Prichard-Jones ddydd Gwener diwethaf, fel rhan o’r Ŵyl Gerdd Bangor flynyddol. Yn ogystal, perfformiwyd darnau gan ei chyd gyfansoddwragedd Cymreig, Rhian Samuel, Hilary Tann, Sarah Lianne Lewis a Lynne Plowman.
“Roedd cael y cyfle i weithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn brofiad hynod werthfawr a chyffrous,” meddai Mared, “o drafod agweddau penodol o fy nghyfansoddiad gydag offerynnwyr medrus a phrofiadol, i ymgynghori gyda Tecwyn Evans, yr arweinydd, yngylch dehongliad. ‘Rwyf wedi edmygu sain y gerddorfa hon ers tro byd, ac felly yr uchafbwynt oedd clywed fy ngwaith yn cael ei berfformio ganddynt, a hynny ym Mangor.’
Bydd Katie Derham yn cyflwyno darllediad o’r holl gyngerdd ar BBC Radio 3 ar Ddydd Mawrth 8 Mawrth am 2yp, fel rhan o ddiwrnod cyfan o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Gwrandewch arno yn fyw, neu unrhyw bryd dros y saith diwrnod nesaf ar BBC iPlayer Radio.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016