Dathliad Cyflogadwyedd 2019
Cynhaliwyd Dathliad Cyflogadwyedd yn Pontio ar nos Fawrth, Ebrill 30ain i longyfarch ac arddangos llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a chynlluniau interniaeth y Brifysgol, ac wedi arddangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygu eu cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol.
Clywyd cyflwyniadau gan fyfyrwyr am eu profiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd yn y Brifysgol, a sut maent wedi elwa o gymryd rhan mewn profiad gwaith a gweithgareddau allgyrsiol. Roedd y myfyrwyr ddaru gyflwyno yn cynnwys Raja Asad (Busnes), Megan Owen (Peirianneg Electronig), Gabriele Radzeviciute (Daearyddiaeth), a Fazeelat Hamid (Gwyddorau Meddygol).
Dywedodd Chris Little, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd, “Mae’n ddigwyddiad gwych sy’n ein galluogi i longyfarch myfyrwyr am eu gwaith caled yn datblygu eu cyflogadwyedd. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt yn dangos pa mor eang ydi’r cyfleoedd sydd yma ym Mangor i fyfyrwyr ddatblygu eu hunain a darparu ar gyfer cyflogaeth”.
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth Cyflogadwyedd i fyfyrwyr oedd wedi eu henwebu gan ysgolion academaidd, Undeb Bangor, neu oruchwylwyr interniaethau.
Cyflwynwyd y wobr i gyflogwyr i M-SParc am eu hymroddiad i gynnig interniaethau, lleoliadau gwaith a chefnogaeth i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd. Roedd Pryderi ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-SParc yn y digwyddiad i dderbyn y wobr.
Rhestr llawn o enillwyr:
Gwobrau Rhagoriaeth Cyflogadwyedd:
Chloe Brindley, Ysgol Seicoleg
Fazeelat Hamid, Ysgol Gwyddorau Meddygol
Gabriele Radzeviciute, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Jemima Letts, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Alistair O’Mahoney, Ysgol Cerdd a Chyfryngau
Gwbor Cynllun Interniaeth Israddedig:
Mary Thornhill, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Raja Asad, Ysgol Fusnes
Gwobr Rhagoraieth Ôl-raddedig:
Gehad Medhat Ibrahim, Ysgol Cerdd a Chyfryngau
Gwobr Menter ac Arloesi:
Jemima Letts, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Ben Simmonds, Ysgol Fusnes (ail-safle)
Gwobr Undeb Bangor:
Ben Exton, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Gwobr i Gyflogwyr:
M-SParc
Mae lluniau o’r noson ar gael ar dudalen Facebook y Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019