Dathliadau Diwali
Bu myfyrwyr y Brifysgol sy'n hanu o India yn dathlu gŵyl Hindŵaidd Diwali mewn steil nos Wener ddiwethaf (5ed o Dachwedd) wrth i Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol drefnu parti yn Neuadd Rathbone.
Mae Gŵyl Diwali (neu’r Ŵyl o Oleuadau) yn un o’r rhai pwysicaf yn India a, gan eu bod yn bell o deulu a ffrindiau, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr y wlad honno sy’n astudio ym Mangor, ddathlu gyda ffrindiau a myfyrwyr rhyngwladol eraill. Mwynhawyd gwledd o gerddoriaeth, canu a dawnsio a thrawsnewidiwyd Neuadd Rathbone gyda goleuadau a blodau - gan roi naws ‘gartrefol’ i’r myfyrwyr.
‘Roedd Manuela Vittori, Swyddog Lles Myfyrwyr Rhyngwladol a drefnodd y noson, yn hynod o hapus bod oddeutu 200 o fyfyrwyr wedi mynychu’r digwyddiad a bod pawb wedi mwynhau.
“Roedd hi’n braf gweld cymaint o fyfyrwyr a’u teuluoedd yn mwynhau’r noson ac yn rhannu eu diwylliant gyda myfyrwyr o wahanol wledydd. Hoffwn drefnu mwy o ddigwyddiadau tebyg yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu ac i wneud iddynt deimlo yn gartrefol gyda ni yma ym Mangor”.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2010