Dathlu Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol drwy gynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin yn canolbwyntio ar y maes astudio hwn. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dathlu rhodd o gasgliad sylweddol o lyfrau Arthuraidd i Lyfrgell Prifysgol Bangor gan Gyngor Sir y Fflint.
Cynhelir y ddarlith, ‘Arthur: the King that never left us' yn Narlithfa 2 Rrif Adeilad y Brifysgol am 5.00 ddydd Iau 16 Ebrill. Mae croeso i bawb i'r ddarlith. I gyd-fynd â’r ddarlith, bydd arddangosfa hefyd yn cael ei gosod yng nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, sy’n agored i'r cyhoedd. Gellir gweld yr arddangosfa yn ystod oriau agor rhwng 13 a 27 Ebrill 2015.
Dr Roger Simpson, academydd nodedig sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Arthuraidd, fydd yn traddodi’r ddarlith. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar y chwedlau Arthuraidd, Camelot Regained, a Radio Camelot. Trwy gydol ei yrfa a’i gyhoeddiadau mae Dr Simpson wedi dangos sut mae'r chwedl Arthuraidd wedi ysbrydoli llenyddiaeth a digwyddiadau diwylliannol yn ystod y canrifoedd diweddar.
Bydd darlith ddarluniadol Dr Simpson yn talu teyrnged i wytnwch y chwedl Arthuraidd, fel yr eglura:
"Trwy ail-gyflwyno ei hun yn lliwgar mewn barddoniaeth, celf, cerddoriaeth, dramâu, pasiantau, nofelau, a'r cyfryngau torfol modern, mae’r chwedl wedi cadw ei hapêl barhaus dros y canrifoedd."
Y Chwedl Arthuraidd: Ddoe a Heddiw yn sgwrsio yng nghasgliadau Bangor a Sir y Fflint
Yn yr arddangosfa a drefnwyd gan Dr Raluca Radulescu, arbenigwr Bangor ym maes llenyddiaeth Arthuraidd, ceir cyfle i weld llyfrau prin o’r casgliad o ddeunyddiau Arthuraidd a roddwyd yn ddiweddar i Brifysgol Bangor gan Gyngor Sir y Fflint, ynghyd ag eitemau o gasgliad llyfrau prin ac archifau’r Brifysgol ei hun. Gyda’i gilydd, mae’r eitemau hyn o’r ddau gasgliad yn rhoi darlun llawn o ddatblygiad y chwedl Arthuraidd dros y canrifoedd. Maent yn cynnwys argraffiadau prin o waith Gildas, De Excidio Britanniae, y testun cyntaf i sôn am frwydr Mynydd Baddon, lle bu Arthur yn fuddugol yn erbyn y Sacsoniaid. Hefyd ceir enghreifftiau o argraffiadau prin o ramant boblogaidd Thomas Malory, Le Morte d’Arthur, megis argraffiad 1634 Stansby (o gasgliad Bangor) ac adargraffiad 1933 o argraffiad a gyhoeddwyd gan Wynkyn de Worde nôl yn 1498 (o gasgliad Harries Sir y Fflint). Mae'r arddangosfa hefyd yn tywys yr ymwelydd drwy'r adfywiad Fictoraidd ym maes y chwedl Arthuraidd, gydag enghreifftiau gwych o argraffiadau cain o Idylls of the King gan Alfred, Arglwydd Tennyson, a ddarluniwyd gan Gustave Doré, a detholiad o argraffiadau o gyfieithiadau Charlotte Guest o'r Mabinogion.
Dywedodd Dr Radulescu: “Mae’r ffordd y mae’r ddau gasgliad fel petaent yn sgwrsio â’i gilydd wedi mynd tu hwnt i’m disgwyliadau, a dyna’r rheswm dros deitl yr arddangosfa. Rwyf wrth fy modd cael dysgu a chyflwyno astudiaethau Arthuraidd gan ddefnyddio enghreifftiau mor wych o argraffiadau cynnar o weithiau sy’n ymwneud ag Arthur, fel y copïau o waith Gildas a chasgliadau o broffwydoliaethau o’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal â’r copïau darluniadol gwych o Idylls Tennyson ac o waith Malory a gyhoeddwyd gan Rackham ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.”
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015