Dathlu Canmlwyddiant Adeilad y Brifysgol
Mae Prif Adeilad Prifysgol Bangor yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni. I ddathlu hyn, a phwysigrwydd y rhan chwaraewyd gan chwarelwyr Gogledd Cymru mewn sefydlu’r Brifysgol, cynhelir Cynhadledd Canmlwyddiant ddydd Sadwrn 19eg Tachwedd am 9.30am, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Bydd y gynhadledd, sydd ar agor i bawb, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Chwarelwyr Gogledd Cymru a datblygiad addysg yn y rhanbarth. Mae’r Ysgol Undydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb. Gofynnir i bawb sydd am fynychu cofrestru o flaen llaw drwy gysylltu â Lynne Hughes ffôn: 01248 382776; e-bost: l.hughes@bangor.ac.uk.
Bydd cinio bwffe ar gael i bawb a fydd yn bresennol, a disgwylir i’r gynhadledd ddod i ben tua 2.45pm.
Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad “Yr angen am Addysg – ymateb Chwarelwyr Gogledd Cymru” fydd yr Athro R. Merfyn Jones, Dr David Gwyn, Mrs Marian Gwyn, Ms Menna Baines a bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael. Teitlau'r darlithoed yw:
Yr Athro Merfyn Jones : “Tomen a thwll – dyna i Gyd”? Cloriannu cyfraniad y chwarelwyr
Dr David Gwyn: “The best and only school” – the quarry? The slate industry as an education
Ms Marian Gwyn: The Writing Slate – the Penrhyn Estate & Education
Ms Menna Baines: Ar Lechen Lân: Caradog Prichard a’i yrfa
Dywedodd Cofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts: “Mae’r cyswllt rhwng chwarelwyr llechi gogledd orllewin Cymru a sefydlu’r Brifysgol ym Mangor yn un o nodweddion gwych ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol hon. Roedd chwarelwyr y Penrhyn – a nifer fawr o bobl eraill a oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru – yn aml yn rhoi o’u cyflogau pitw, i gefnogi’r ymgyrch am addysg uwch yng ngogledd Cymru, ac mae’n briodol iawn i ni dalu sylw i’w cyfraniad.”
Ddydd Sadwrn 26 Tachwedd bydd Cerddorfa Symffoni y Brifysgol, hefyd yn cyflwyno Cyngerdd i ddathlu’r canmlwyddiant, gan gyflwyno tri darn a gyfansoddwyd yr un flwyddyn ag agoriad yr adeilad.
Mae arddangosfa o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig ag agor yr adeilad,, sy’n cynnwys dogfennau o Archif y Brifysgol, yn cael ei chynnal yng nghoridor yr Is Ganghellor hyd at 16 Rhagfyr.
Cartref gwreiddiol y Brifysgol oedd adeiladau hen westy’r Penrhyn Arms, ond yn fuan iawn roedd yn rhy fach. Codwyd arian ar gyfer yr adeilad newydd yn lleol, gyda'r rhan fwyaf o'r arian yn dod o rhoddion gan bobl gyffredin ar draws gogledd Cymru, a £ 20,000 oedd yn dod o'r llywodraeth. Cyfrannodd dinasyddion Bangor £6,000 i’r gronfa cyfrannwyd £50 gan Ysgol Friars yn benodol am gerflun o Goronwy Owen, sydd i’w weld ar dwr y Brifysgol. Sefydlwyd cronfeydd unigol ar gyfer yr holl fanylion ychwanegol, i lawr at gost y dderbynfa agor yr adeilad. Darlun o Brif adeilad y Brifysgol pan gafodd ei agor ym 1911.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2011