Dathlu cyflogadwyedd
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu llwyddiant y cynllun cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd Gwobrau Rhagoriaeth i chwe myfyriwr oedd wedi cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, a'r cynllun Interniaeth Israddedigion, y ddau gynllun dan ofal y brifysgol. Hefyd yn ystod y noson cafodd myfyrwyr gyfle i rannu eu profiadau ac i egluro sut bydd y cynlluniau hynny o fudd iddynt pan fyddant yn graddio.
Bwriad y wobr yw helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trwy weithgareddau ychwanegol a chyd-gyrsiol trwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol a'u helpu i ddeall sut i'w hyrwyddo eu hunain i gyflogwyr yn y dyfodol.
Mae'r cynllun yn cydnabod y sgiliau y mae myfyrwyr yn eu hennill trwy weithgareddau allgyrsiol a hefyd yn darparu rhaglen graidd o weithgareddau rheoli gyrfa a datblygu sgiliau.
Mae'r Cynllun Interniaeth Graddedigion wedi bod yn rhedeg ers mis Ionawr 2013 ac mae myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn gweithio hyd at 180 awr mewn adrannau o fewn y brifysgol. Mae'r interniaethau wedi eu cyllido'n llawn ac maent wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda 300 o fyfyrwyr yn gwneud cais am 32 o swyddi'n unig.
Meddai Rheolwr Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, John Jackson: "Bwriad y Digwyddiad Dathlu Cyflogadwyedd hwn yw llongyfarch myfyrwyr sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i wella eu cyflogadwyedd.
"Clywsom chwe chyflwyniad diddorol ac unigryw gan fyfyrwyr yn sôn sut mae eu profiadau wedi eu helpu i ddatblygu eu sgiliau i'w paratoi ar gyfer byd gwaith.
Meddai Mari Roberts, Cydlynydd y cynllun: “Mae’r cynllun interniaethau israddedigion wedi rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr i ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn adrannau prifysgol, ac i weithio ar brojectau i raddedigion.
"Rydym wedi gallu cynnig amrywiaeth eang o fathau o interniaeth sy'n addas i fyfyrwyr o'r holl ddisgyblaethau academaidd ac rydym yn edrych ymlaen at allu darparu hyd yn oed fwy o gyfleoedd yn y flwyddyn academaidd nesaf."
Mae Alexander Aldred, o Nottingham, yn astudio Economeg Busnes yn Ysgol Busnes Bangor ar hyn o bryd. Mae wedi cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, a hefyd yn y cynllun Interniaeth Israddedigion.
Meddai: “Fe wnes i benderfynu cymryd rhan yn GCB er mwyn hel fy holl weithgareddau allgyrsiol yn un cymhwyster cydnabyddedig. Rydw i wedi dysgu llawer yn fy interniaeth gyda Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, sydd wedi fy helpu i ddod o hyd i yrfa newydd sydd wrth fy modd.
"Byddwn yn argymell y wobr i bobl eraill, mae'r cynllun yn rhoi cefnogaeth i chi ennill sgiliau a chael profiad y tu allan i'r ddarlithfa, ar eich cyflymder eich hun."
Os hoffech gymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor, e-bostiwch employability@bangor.ac.uk
Mwy o wybodaeth am Wobr Cyflogadwyedd Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2013