Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Roedd staff academaidd, myfyrwyr a chyflogwyr yn bresennol, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wobrwyo 9 Gwobr Ragoriaeth GCB i fyfyrwyr wedi eu henwebu gan eu ysgolion academaidd am gymryd camau positif i wella eu amcanion gyrfa ar ôl graddio yn yr haf.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr: Marta Napodano (Saesneg), Ryan Jacques (Cyfrifiadureg), Stephanie Freeth (y Gyfraith), Sally Breese (Addysg), Leo Johnson (Gwyddorau Eigion), Jodie Colk (Seicoleg), Ben Price (Gwyddorau Chwaraeon), Faith Jones (Amgylchedd) and Emily Wilde (Cerddoriaeth).
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobr Rhagoriaeth mewn Menter gan Santander Universities i Bogdan Pop o’r Ysgol Fusnes, am ennill y nifer uchaf o bwyntiau XP yng nghategori menter ac arloesi Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
Clywyd cyflwyniadau difyr ac amrywiol gan 5 o fyfyrwyr sy’n cwblhau GCB eleni am eu profiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd. Cafwyd cyflwyniadau gan Sarah Stokes (Seicoleg), Bogdan Pop (Busnes), Guto Gwilym (Seicoleg), Faith Jones (Amgylchedd) a Zack Zeiger (Seicoleg), gyda phob cyflwyniad yn amrywio o drafod profiadau gwirfoddoli, cymryd rhan yng Nghynllun Interniaeth GCB, cystadlaethau menter, profiadau tramor a darpariaeth ar gyfer chwilio am swydd raddedig cyntaf.
Siaradwr gwadd y noson oedd Iwan Thomas o’r Bwrdd Amcanion Economaidd yng Nghogledd Cymru, yn dilyn ei gyfraniad i ddigwyddiad yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn dod a chyflogwyr o’r sector ynni a myfyrwyr at eu gilydd. Siaradodd Iwan am gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion yng Ngogledd Cymru ac amlygu’r amcanion positif ar yr economi o gyflogi myfyrwyr a graddedigion.
Dywedodd John Jackson, Rheolwr GCB: “Mae’r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae’n dda gweld cymaint o wahanol bobl yma i gefnogi’r myfyrwyr a’r wobr. Mae clywed myfyrwyr yn cyflwyno am eu profiadau cyflogadwyedd, a beth mae’n ei olygu iddyn nhw, yn helpu atgyfnerthu pwysigrwydd datblygu cyflogadwyedd tra yn y Brifysgol, a pha mor hanfodol ydi o fod y Wobr Gyflogadwyedd yn hyblyg fel fod myfyrwyr yn medru ei deilwra i’w diddordebau eu hunain.”
Mae modd gweld yr holl luniau o’r noson ar dudalen Facebook y Wobr Gyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2014