Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn Neuadd Reichel yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau i wella eu cyflogadwyedd ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu’n broffesiynol.
Roedd staff academaidd, myfyrwyr a chyflogwyr yn bresennol, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth Cyflogadwyedd i fyfyrwyr wedi eu henwebu gan staff ar draws y Brifysgol. Eleni, roedd categorïau newydd o wobrau, gan gynnwys ‘Intern y Flwyddyn’ a Gwobr Rhagoriaeth Undeb y Myfyrwyr.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr:
Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau: Siwan Jones (Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau)
Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas: Maxime Aumaitre (y Gyfraith) a Meinir Owen (Addysg)
Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: Franziska Kreutner (Seicoleg)
Coleg Gwyddorau Naturiol: Lara Pritchard (Daearyddiaeth)
Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol: Kathryn Howard (Peirianneg Electronig)
Intern y Flwyddyn: Benedict Blackledge (Gwyddorau Eigion)
Intern y Flwyddyn (Ail safle): Mark Barrow (Hanes)
Gwobr Rhagoriaeth yr Undeb Myfyrwyr am Gyflogadwyedd: Luke Bidder (Addysg)
Gwobr GCB Meistr: Si Jing Tan (Seicoleg)
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth mewn Menter gan Prifysgolion Santander i fyfyrwyr oedd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a chystadlaethau menter yn ystod y flwyddyn.
Cyflwynwyd gwobr olaf y noson, Gwobr Rhagoriaeth i Gyflogwr, i Horizon Nuclear Power am eu hymrwymiad i helpu datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae’r wobr yma yn dilyn arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Horizon a’r Brifysgol yn Ionawr2015, ac enwebiad diweddar ar gyfer Gwobr AGCAS yn y Gwobrau Cenedlaethol Target Jobs i gyflogwyr sy’n cynnig cefnogaeth ardderchog i Wasanaethau Gyrfaoedd.
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Rhanddeiliaid ar gyfer Horizon Nuclear Power “Rwy’n hapus iawn i dderbyn y Wobr yma ar ran Horizon. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu gweithlu lleol, a chydnabod fod cyflogwyr ym mhob sector yn chwilio am fwy na cymwysterau academaidd yn unig. Mae sgiliau cyflogadwyedd mor bwysig, ac mae buddsoddi mewn datblygu myfyrwyr a’u helpu i ddarparu ar gyfer cyflogaeth yn hanfodol. Mae cyfleoedd ar gael ar draws y sector ynni isel mewn carbon, ac rydym yn cydnabod yr angen busnes i gefnogi Prifysgol Bangor i ddatblygu gweithlu’r dyfodol.”
Yn ystod y digwyddiad, clywyd cyflwyniadau diddorol ac amrywiol gan fyfyrwyr yn rhannu eu profiadau a’u hadlewyrchiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd yn y Brifysgol. Yn cyflwyno roedd Laura Jager (y gyfraith), Lara Pritchard (Daearyddiaeth), Andrew Leavers (Cyfrifiadureg) a Paula Noon (Dylunio Cynnyrch). Roedd tîm Enactus y Brifysgol hefyd wedi rhoi cyflwyniad eu prosiect cymunedol newydd, Y Bont.
Mae modd gweld yr holl luniau o’r noson ar dudalen Facebook y Wobr Gyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2016