Dathlu Diwrnod Ewrop
Yn flynyddol ar 9 Mai, cynhelir nifer o ddigwyddiadau amrywiol i ddathlu Diwrnod Ewrop, sy’n ddathliad o heddwch ac undod yn Ewrop. Mae’r dyddiad yn cyd-fynd â’r Datganiad Schuman hanesyddol a gafwyd ym Mharis yn 1950 pan gyflwynodd Robert Schuman, Gweinidog Tramor Ffrainc bryd hynny, ei syniad ar gyfer dull newydd o gydweithredu gwleidyddol yn Ewrop; rhywbeth a fyddai’n golygu bod y bygythiad o ryfel arall ymhlith gwledydd Ewrop yn pylu’n llwyr.
Eleni, sef y flwyddyn gyflawn olaf cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ym Mawrth 2019, mae Prifysgol Bangor yn dathlu Diwrnod Ewrop yn y dull traddodiadol, drwy hedfan baner yr UE uwchben Prif Adeilad y Celfyddydau. Fyth ers i gyllid strwythurol ddechrau cefnogi economi Cymru gyda thros £600m yn flynyddol, mae Prifysgol Bangor wedi bod ymhlith y mwyaf llwyddiannus o sefydliadau addysg y DU wrth sicrhau cyllid i Ogledd Cymru ar gyfer llu o ddibenion gwahanol – projectau megis Parc Gwyddoniaeth M-Sparc ar Ynys Môn, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor a’r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol ym Mhorthaethwy. Mae Bangor hefyd wedi elwa o nawdd ar gyfer ymchwil drwy law rhaglen gyllido Horizon 2020 yr UE ac mae’r sefydliad yn arwain y rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) ar gyfer yr wyth prifysgol yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn hwyluso myfyrwyr i ymgymryd â graddau PhD neu Feistr drwy Ymchwil gyda chyrff a busnesau, gyda’r mwyafrif ohonynt yn lleol i’r rhanbarth. Bellach ar ei ail gyfnod, mae KESS wedi sicrhau dros £70m o gyllid grant i’r sector addysg uwch yng Nghymru hyd yma, ac mae disgwyl i’r ail gyfnod yma arwain at gyfanswm o 645 o brojectau PhD a Meistr.
Mewn datganiad i ddathlu Diwrnod Ewrop, meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes: “Mae cyllid gan yr UE wedi bod yn hanfodol i’r brifysgol wrth gefnogi ein hymchwil cydweithredol, gan godi safonau sgiliau ei myfyrwyr, cefnogi ymchwil yn ogystal â dod â buddion sylweddol i’r gymuned yn ehangach yn nhermau economaidd a chymdeithasol.”
Heddiw, mae’r brifysgol yn arwain neu yn bartner portffolio cyffrous o brojectau wedi eu cyllido gan oddeutu £43m o gyllid yr UE, gyda gwerth £20m arall o brojectau i ddod erbyn 2022. Mae’r cyllid yma yn gymorth wrth sicrhau nawdd allanol ychwanegol i’r brifysgol. Er enghraifft, llwyddodd project Pontio i sicrhau £15m ychwanegol o Gyllid Strategol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chefnogaeth barhaus gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chyllid-project gan gyrff elusennol megis Cronfa Fawr y Loteri Genedlaethol.
Un cyfleuster cyffrous sydd wedi denu gwerth £5 miliwn gan yr UE yn ddiweddar yw'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) a fydd yn gweithio gyda busnesau i ddarganfod sut i greu a thynnu proteinau ac ensymau newydd o organebau sy'n ffynnu mewn amgylcheddau eithafol - er enghraifft, ar wely’r môr, neu mewn tymheredd uchel iawn megis o amgylch llosgfynyddoedd. Os y cânt eu masnachu, mae’n bosib y bydd y rhain yn helpu i leihau'r defnydd o ynni a’r costau cysylltiedig mewn prosesau beunyddiol megis glanhau cartrefi a glanhau masnachol, neu helpu leihau deunydd pacio nad yw'n bioddiraddadwy ar hyn o bryd, ac yn y blaen.
Mae Cronfeydd Datblygu a Chymdeithasol Rhanbarthol Ewrop wedi ysgogi Prifysgol Bangor i weithio'n benodol ac yn helaeth â Mentrau Bach i Ganolig (SMEs) Cymru, o ran ymchwil ar y cyd, trosglwyddo gwybodaeth a datblygu sgiliau lefel uwch; mae hwn yn gryfder arbennig sydd gan Bangor ac sy’n cyfrannu at ei hanes o weithio’n llwyddiannus gyda busnesau yng Nghymru.
Yn olaf, gelwir Prifysgol Bangor yn Brifysgol Ryngwladol ar gyfer y Rhanbarth, ac mae gennym hanes balch o ddenu myfyrwyr rhyngwladol i'r ddinas, gan gynnwys o'r UE. Mae rhaglenni cyfnewid fel Erasmus + wedi galluogi myfyrwyr tramor i fwynhau rhan o'u hastudiaethau yma yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â rhoi cyfle i'n trigolion ni i astudio, gweithio a dysgu yn rhai o ddinasoedd prifysgol mwyaf amlwg Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018