Dathlu Diwrnod Mamiaith rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor
Ar ddydd Mercher y 21ain o Chwefror, bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu ‘Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol’.
Gyda myfyrwyr o bron 90 gwlad yn y Brifysgol, roedd y diwrnod yn dathlu’r amrywiaith ieithyddol ym Mangor, gyda myfyrwyr o draws y byd yn hyrwyddo a rhannu eu ieithoedd.
Bu’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol (SCMR) yn gweithio gyda’r Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau, a’r Gymdeithas LangSoc i ddathlu’r diwrnod. Cafwyd digwyddiad ‘pop-up’ ar y campws, lle rhoddwyd dros 100 o negeseuon personol gan fyfyrwyr ar fap o’r byd yn eu mamiaith eu hunain. Yna, cynhaliwyd digwyddiad yn nhafarn y Belle Vue lle cafwyd 4 darlith gan myfyrwyr a staff am ieithoedd leifrifol a’r pwysigrwydd o’u gwarchod, ac yna cwis ieithoedd i ddilyn.
Creodd y diwrnod argraff fawr ar Marcel Clusa o’r SCMR a cafodd ei synnu gan yr amrywiaeth ac amrediad o ieithoedd ymysg myfyrwyr Bangor – “Doeddwn i methu credu faint o negeseuon ysgrifennedig gafon ni erbyn diwedd y diwrnod. Cymaint o ieithoedd gwahanol! A phob un yn lledaenu neges bositif am undod a heddwch, ac yn profi sut gall ieithoedd ddod a pobl at eu gilydd. Roedd grwpiau o ffrindiau yn troi fyny, ‘run ohonynt yn siarad yr un mamiaith, ond yn dangos yn glir sut gall cyfeillgarwch oresgyn unrhyw rwystr, unai diwylliannol, daearyddol neu wleidyddol. Mae hyn yn rhywbeth dylwn ni ei gofleidio a dysgu ohonno, yn enwedig yn yr hinsawdd gwleidyddol bresennol. Roedd o’n wych!”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017