Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda chyfres o ddigwyddiadau
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ddydd Sadwrn 8 Mawrth, gyda nifer o ddigwyddiadau, gan ddechrau ddydd Iau, 6 Mawrth.
Mae’r digwyddiadau, a drefnwyd trwy Ysgol Dysgu Gydol Oes y brifysgol mewn partneriaeth â BOCS (Caernarfon ) ac eraill, yn cynnwys lansio arddangosfa yn Oriel Bocs yn 20 Stryd Fawr, Caernarfon. Mae’n arddangosfa o waith gan artistiaid benywaidd, ar y thema portread o’r ferch, a Menna Thomas yw’r curadur. Mae’r lansiad yn digwydd nos Iau 6 Mawrth, rhwng 6 a 9 o’r gloch ac mae ar agor i'r cyhoedd.
Mae BOCS yn ganolbwynt celf gyfoes ac arbrofol sy’n hyrwyddo artistiaid ifanc a newydd. Dyma yw’r lleoliad hefyd y noson ffilm gyda siaradwr a gynhelir nos Wener 7 Mawrth rhwng 7.30 a 10 o’r gloch.
Ddydd Gwener 7 Mawrth, bydd Canolfan Merched Gogledd Cymru, y Rhyl, sy’n bartneriaid yn y digwyddiad, yn cynnal gweithdy a drefnir gan Brifysgol Glyndŵr a fydd yn annog merched i ymddiddori mewn pynciau a swyddi ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Bydd digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn symud i'r brifysgol ym Mangor ar gyfer y diwrnod ei hun, ddydd Sadwrn 8 Mawrth. Cynhelir ffair fenter y merched, sydd am ddim ac yn agored i bawb, o 1 o’r gloch y prynhawn hyd 10 o’r gloch yr hwyr. Bydd yn cynnwys siop lyfrau, a mentrau crefft a busnes gan ferched lleol. O 1 o’r gloch y prynhawn bydd cyflwyniadau, trafodaethau a pherfformiadau ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg. Ar yr un pryd â'r ffair fenter a'r sgyrsiau bydd canolbwynt gwybodaeth gan gyrff sy'n cefnogi merched ar gael trwy’r dydd.
Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda digwyddiad fydd yn cynnwys cerddoriaeth, celf, fideos a barddoniaeth am 7 o’r gloch yr hwyr yng Nghaffi Blue Sky ar Stryd Fawr Bangor. Uchafbwynt y noson fydd set acwstig gan Banda Bacana, gydag amrywiaeth o artistiaid eraill yn perfformio. Y gost yw £5 a £3 (pris gostyngol) ar y drws. Bydd unrhyw elw yn mynd at broject Orchid (yn erbyn llurgunio organau rhywiol merched).
BOCS fydd y lleoliad eto ddydd Sul 9 Mawrth. Cynhelir gweithdai arlunio dan arweiniad Menna Thomas rhwng 11 ac 1 o’r gloch a gweithdy ysgrifennu gyda Jill Tunstall rhwng 1 a 3 o’r gloch.
Dywedodd Shan Ashton, trefnydd Diwrnod Rhyngwladol y Merched, sydd hefyd yn arwain cwrs MA mewn Astudiaethau Merched yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes:
"Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiannau merched, i rwydweithio a meithrin gwytnwch er mwyn gallu goroesi a ffynnu, weithiau mewn cyfnod o galedi. Mae’n wych hefyd cael cyfle i ddod â phartneriaeth anffurfiol at ei gilydd rhwng Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Cydweithrediad Artistiaid BOCS, BAWSO a Chanolfan Merched Gogledd Cymru a derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru a WEN Cymru i drefnu’r digwyddiadau hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2014