Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth
Bydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.
Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.
Bydd cyngerdd nos Lun Ensemble Cymru, Landmarks, yn rhoi llwyfan i rai o'r darnau cerddoriaeth siambr orau gan gyfansoddwyr benywaidd. Rhoddir y sylw pennaf i Sextet gan Grace Williams, darn o waith na pherfformir mohoni'n aml sy'n cynnwys rhan flaenllaw i'r trymped - hoff offeryn y gyfansoddwraig o Gymru. Bydd y bariton Jeremy Huw Williams yn ymuno â'r Ensemble am y perfformiad cyntaf yn y byd o The Swan Nicola LeFanu.
Bydd y cantorion o Gymru sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Elin Manahan Thomas a Jeremy Huw Williams, yn ymddangos am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, gyda Paula Fan o America yn cyfeilio ar y piano, yn y cyngerdd Ar Adenydd Cân/ On Wings of Song nos Fercher 6 Medi. Bydd y cyngerdd arloesol hwn yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd ar hyd yr oesoedd - Caritas Abundat gan Hildegard o Bingen o'r 11eg ganrif, My Last Duchess gan Grace Williams a'r gwaith gwefreiddiol King Harald's Saga gan Judith Weir, Meistr Cerddoriaeth presennol y Frenhines. Ceir sgwrs cyn y cyngerdd am 6.15pm gan Elen ap Robert a Geraint Lewis yn trafod gwaith y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards a chyfansoddwragedd eraill o'r un cyfnod â hi. Bydd y drafodaeth yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar y we.
Dywedodd Dr. Rhiannon Mathias, Darlithydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth, a Threfnydd y Gynhadledd:
"Rydym yn hynod o falch o fod yn cynnal y Gynhadledd hon yn bwrw golwg dros waith cerddorion benywaidd. Bydd y ddau gyngerdd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gael blas ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth, popeth o'r oesoedd canol i'r cyfnod modern.
"Mae gennym bapurau gan academyddion, ymarferwyr, cyllidwyr, darlledwyr a newyddiadurwyr, sydd, yn ogystal â chanolbwyntio'n arbennig ar gerddorion a chyfansoddwyr o Gymru, hefyd yn taflu goleuni ar gyfraniadau gan fenywod Maori, menywod o Taiwan ac o'r Dwyrain Canol, mewn meysydd cerddorol gwahanol iawn i'w gilydd."
"Mae uchafbwyntiau eraill y Gynhadledd yn cynnwys Panel PRS for Music a Phanel Diwydiant Cerddoriaeth a gadeirir gan Deborah Annetts, Prif Swyddog Gweithredol yr Incorporated Society of Musicians, yn trafod sefyllfa cerddorion sy'n fenywod yn niwydiant byd-eang cerddoriaeth heddiw. Cyn y drafodaeth banel hon, bydd Edwina Wolstencroft yn siarad am ei gwaith fel Golygydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar BBC Radio 3."
Dywedodd yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Dyma'r gynhadledd ryngwladol gyntaf ar bwnc pwysig iawn gwaith merched mewn cerddoriaeth, ac rydym wedi bod wrth ein bodd â'r ymateb rydym wedi ei gael o bob cwr o'r byd. Mae’n bleser gennym ein bod yn cynnal y gynhadledd ym Mangor, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor rhai o'r uchafbwyntiau i'r cyhoedd."
Yn ogystal â'r cyngherddau, mae dau ddigwyddiad Cynhadledd cyffrous arall yn agored i'r cyhoedd. Nos Iau, 7 Medi am 11am yn Neuadd Powis, bydd y berfformwraig feistrolgar Madeleine Mitchell - a ddisgrifiwyd gan The Times fel ‘one of Britain's liveliest musical forces (and) foremost violinists' - yn rhoi'r perfformiad cyntaf yn y byd o Sonata ar gyfer Ffidyl Grace Williams, gyda chyfeiliant gan y pianydd Konstantin Lapshin. Dilynir y datganiad yn Neuadd Powis gan berfformiad am 12 canol dydd gan Gwmni Opera Cymru o ddarn o waith gan Williams na chlywir mohoni'n aml, The Lovely Gift of the Gab, gwaith a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn 1965 ac a ddisgrifiwyd gan Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr fel 'blodeugerdd o ryddiaith a barddoniaeth Gymraeg o'r chweched ganrif hyd heddiw, i gyfeiliant cerddoriaeth'.
Ceir manylion pellach am y Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth ar http://wwm.bangor.ac.uk/
Gellwch brynu tocynnau ar gyfer cyngherddau Landmarks ac On Wings of Song ar-lein ar www.pontio.co.uk neu drwy ffonio 01248 38 28 28 neu o'r Swyddfa Docynnau.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017